MR. ROWLAND OWENS, PROSCAIRON, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Medi 19eg, 1855, yn Proscairon, swydd Columbia, Wisconsin, Mr. Rowland Owens, yn 88 mlwydd oed.

Ar yr 21ain claddwyd ei ran farwol yn mynwent Engedi. Pregethwyd ar yr achlysur gau y Parchedig Thomas Roberts yn y capel. Anerchwyd y gynulleidfa wrth y bedd gan y Parch. John Daniels.

Yr oedd Mr. Owens yn aelod crefyddol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Ymfudodd i'r wlad hon ychydig flynyddau yn ôl, o blwyf Llanddeiniolen, Gogledd Cymru.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1855.