MRS. ANN PRICHARD, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Hydref, 15fed, 1855, ger Remsen, Oneida County, yn 56 ml. oed, o'r dropsy, Anne, priod John I. Prichard, claddwyd ei chorff yr 17eg yn Monwent Prospect; pregethwyd ar yr achlysur gan W. Jones, Remsen.Yr oedd yn enedigol o sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Teimlir colled fawr ar ei hol, fel priod ffyddlon, mam dyner, a chymydoges heddychlawn a chariadus.
Bendithied yr Arglwydd yr amgylchiad er lles ysbrydol i'r gweddw a'r amddifaid a adawyd ar ôl.