MRS. CATHERINE ROBERTS, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 4ydd, 1855, yn Utica, Catharine, priod Mr. John Roberts. Ydoedd ferch i Mr. Thomas a Mary Lloyd, Llanuwchlyn, Meirionydd, Gogledd Cymru.

Ymfudodd gyda'i phriod i'r wlad hon yn nechreu y flwyddyn 1850.

"Disgynodd i ddystawrwydd" heb ychwaneg nag wythnos o gystudd, yr hwn oedd fath o enynfa yn y pen, tebyg i'r tân eiddew. Cafodd Mrs. Roberts y fraínt o "ddwyn iau " crefydd "yn ei hienctyd; yr ydoedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn ei hardal enedigol, er pan yn 15 mlwydd oed, ac wedi dyfod i'r wlad hon, ymunodd gyd a'i phriod ag eglwys y Wesleyaid Cymreig yn Utica.

Y rhai a'i hadwaenent oreu, a deimlant yn dra hyderus ddarfod iddi deimlo ystyr mawr yr ymadrodd a ysgrifenwyd - "A marw sydd elw" Er ocheneidion ei phriod galarus ac edrychiad difrif ddiniwed ei geneth a'i bachgen bach amddifad, dodasom hi yn ei gorpbwysfa yn y llwch yn mynwent Utica, i aros yr Iesu.
R. L. Herbert.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1855.