MR. ROBERT W. ROBERTS, NINETYSIX, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Tachwedd 29ain, 1855, yn ardal Ninetysix, Remsen, ar ôl hir waeledd a chystndd, Mr. Robert W. Roberts, yn 88 mlwydd oed - buasai yn 89 pe buasai fyw hyd fis Mai nesaf.Ganwyd Mr. Roberts yn y ffermdy a elwid Cae Mawr, yn mhlwyf Mellteyrn. swydd Gaernarfon. Ymunodd mewn priodas ag Elizabeth Daniel, o Nerpwll Bach, plwyf Bryncroes. Bu iddynt 16 o blant, o ba rai y mae 10 yn fyw.
Ymfudodd i'r America yn ngwanwyn y flwyddyn 1831, a threuliodd weddill ei oes yn yr ardaloedd hyn, swydd Oneida.
Yr oedd yn aelod cymeradwy gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, - ei aelodaeth gwreiddiol yn Nghymru oedd yn nghapel Penygraig, ac yma perthynai i gapel Penycaerau, ac ar ôl treulio oes faith gydag achos ei Waredwr, mwynhaodd gysuron yr efengyì i raddau gwerthfawr yn ei ddiwedd, ac ymadawodd mewn tangnefedd.
Claddwyd ef yn mynwent Penycaerau (lle hefyd y claddwyd ei wraig) a gweinyddwyd gan E.Salisbury, E. Humphreys a R. Everett.