MR. WILLIAM ROBERTS, SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.

Ionawr 19eg, 1855, Slatington Pennsylvania, fel yr oedd amryw yn gweithio yn nghloddfa llechau Henry Runter, ar lan afon Le-high, dygwyddodd i syrthiad helaeth o'r graig ddyfod i lawr ar ddau o honynt, o'r enwau William Griffiths a William Roberts, yr olaf a laddwyd yn ddiatreg, ond y blaenaf a lefai odditan y crug a orweddai arno. Yna y presenolion, gan ddeall cyflwr y ddau, a ymdrechasant i ryddhau yr un oedd eto yn fyw. Cawsant gymhorth hefyd o chwarelau eraill, oud nid oedd modd iddynt gydweithio o herwydd culdra y lle; felly dosbarthwyd hwynt yn wahanol ddosbarthiadau, fel pan weithiai un dosbarth ei hun allan braidd o nerth, y cymerid ei le gan ddosbarth arall, ac felly buwyd yn gweithio gyda yr egniwch mwyaf canmoladwy am ddwy awr, cyn y gallwyd ei ryddhau o'i boenau.

Y peth y cwynai fwyaf o'i blegyd oedd ei fod yn cael ei wasgu braidd allau o anadl. Pan ei rhyddhawyd, deallwyd fod llaw rhagluniaeth wedi ei gysgodi yn llawer iawn gwell nag y tybiwyd ar y cyntaf. Dysgwylid y bydd yn fuan yn alluog i ddilyn ei alwedigaeth.

Gwedi rhyddhau William GrifHths, buwyd am un awr cyn rhyddhau William Roberts yr hwn yn ddiweddar oedd o ger Bethesda, plwyf Llanllechyd, swydd Arfon, Gogledd Cumru. Yr oedd gwedi tori amrai o esgyrn ei gorph. Y dydd canlynol ymgasglodd torf luosog o wahanol genhedloedd i'e gladdedigaeth. Claddwyd ef yn monwent Dinorwig, Slatington, yn yr oedran o 23. Dywedwyd gair ar yr amgylchiad ar lan y bedd gan Evan F. Jones; yna aeth y dorf i'r addoldy, lle y dywedwyd ychydig gan John Evans, diweddar o Wisconsin, oddiar Hebreaid 9:27, "Am hyny byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn."

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1855.