MR. ELLIS J. THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mehefin 12fed, 1855, yn, mhlwyf Trenton Caerefrog Newydd, Ellis J. Thomas, gynt o Carrog, plwyf Bryncroes, Lleyn, yn 70 mlwydd, 5 mis, 2 wythnos, a 4 diwrnod oed.

Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon yn y gwanwyn pedair blynedd i'r diweddaf. Cafodd flynyddoedd meithion o gystudd gan yr afíechyd poenus yr anadlwst (asthma).

Fel cymydog a phriod yr oedd yn ddyn mwyn a hawddgar iawn, yn foesol iawn, yn wrandawr cyson tra y gallodd, ac yn ddarllenwr diwyd iawn ar ei Feibì, ac yn gweddio yn ddirgei yn dra mynych, ond ni wnaeth broffes gyhoeddus o grefydd.

Gadawodd briod alarus a chwech o blant i alaru ar ei ól. Cyfarfu lluaws mawr o Gymry i dalu y gymwynas olaf i'w ẁeddillion marwol ar y 14eg.

Claddwyd ef yn mynwent Capel Penygraig. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Ebenezer Salisbury yn y ty ac yn y capel.

Y Cefaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1855.


MR. ELLIS J. THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mab John Thomas a Catherine Ellis, Trefaes ym mhlwyf Meillteyrn. Bedyddiwyd yn Eglwys Botwnnog diwrnod Nadolig 25/12/1784.

Tua dechrau y bedwaredd ganrif ar bymtheg symydodd y teulu i fyw i Carrog ym mhlwyf Bryncroes.

Ellis Jones yn priodi Mary Jones o blwyf Bryncroes yn Eglwys Bryncroes ar 22/8/1829.

Yr oedd Elizabeth chwaer Ellis a John ei frawd wedi ymfudo i America ac yn 1851 aeth Ellis a'i deulu hefyd.
Ar restr teithwyr y llong Star of the West o Lerpwl wnaeth gyrraedd Efrog Newydd 3/5/1851, gellir gweld:-

Ellis Jones. 66. Farmer.
Mary Jones. 44.
John Thomas. 19. Bedyddio 4/12/1831. Bryncroes.
Ellen Jones. 13. Bedyddio 11/10/1835. Bryncroes
Jane Jones. 12. Bedyddio 16/4/1838. Bryncroes
Evan Jones. 9.
Owen Jones. 6.
Ellis Jones. 5.

Yn America 'roedd Ellis yn defnyddio'r cyfenw Thomas ac fel Ellis J Thomas yr oedd yn cael ei adnabod amlaf yn America.

Sefydlodd y teulu i ffermio yn ardal Trenton, ond bu Ellis farw ar 12ed Mehefin 1855 yn 70 oed, pedair blynedd ar ôl ymfudo i'r America.

Bu Mary Thomas farw ar 13eg Ionawr 1882 yn 74 oed.

Mae'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Capel Pen y Graig yn Remsen. Ar garreg fedd Ellis mae'r enw Ellis Thomas, Carrog yn dal i'w weld yn eglur.

Glyn Roberts ~ Medi 2021.