MR. JOHN THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 16eg, yn mhlwyf Trenton, swydd Oneida, N. Y., ar ol hirfaith gystudd, Mr. John Thomas, yn 79 mlwydd oed.Ymfudodd Jobn Thomas a'i deulu o le a elwir Maes y Llan, Llaniestyn, swydd Gaernarfon, i'r America, 29 mlynedd i'r Gwanwyn diweddaf; ac ar ôl treulio ychydig amser yn New York, daeth i swydd Oneida, a bu fyw weddill ei dymor yn yr ardaloedd hyn. Daeth dan argraffiadau am ei gyflwr tragywyddol a derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben tua 14 mlynedd yn ôl, a pharhaodd yn ei ymlyniad gydag achos yr Arglwydd hyd ei farwolaeth.
Claddwyd ef yn mynwent Capel Ucha', Steuben, a phregethwyd yn y gladdedigaeth gan y Parchedig R. D. Thomas, diweddar o Penarth, Cymru - a gweinyddwyd hefyd gan M. Roberts, a R. Everett.