MRS. ELIZABETH WATSON, WAUKESHA, WISCONSIN.
Chwefror 7fed, 1855, yn Waukesha, Wisconsin, yn 27 mlwydd oed, Mrs. Elizabeth Watson, y bedwaredd ferch i Hugh ac Ann Williams, o Turìn, Caerefrog Newydd, gynt o Langybi, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Aeth hi a'i phriod i Wisconsin ddwy flynedd yn ôl, ac ymsefydlasant yn Milwaukie. Dechreuodd. ei iechyd waelu yr haf diweddaf, ac yr oedd yn methu myned i foddion gras o herwydd ei thraed; dywedai yr amser hyny wrth ei chwaer oedd newydd ddyfod yno ati, os cai wellau, y defnyddiai hwy i'w chario i dy Dduw, ac yr ymunai a'i bobl, ond cyn iddi fod yn alluog, cymerwyd hi gan y cryd, a bu hwnw yn ei rhwymo gartref drachefn. Ond y Sabboth diweddaf y bu ei chwaer yno, hi a fu yn y capel dair gwaith, a dywedodd na chafodd y fath bleser erioed; a dywedodd hefyd yr ymunai ag eglwys Dduw y cyfleustra cyntaf; eithr hwnw oedd y tro diweddaf y bu yn alluog i fyned yno. Ychydig wythnosau cyn iddi farw, symudodd hi a'i phriod i'r wlad er mwyn ei hiechyd, i dy Mr. Thomas Jones. Ar ól bod yno am ychydig amser, cipiodd angeu ei hunig blentyn mewn modd sydyn, pan ar ei glin. Ond yn mhen tair wythnos aeth hithau ar ei ól, er pob help a allasai y meddygon a'i phriod estyn iddi.
Pregethwyd ar achlysur ei chladdedigaeth gan y Parch. H. B. Crane, oddiwrth Esa. xxxiii. 16, 17. Ymwelwyd â hi gan y Gweinidog uchod amryw weithiau; a hi a ddywedodd wrtho y diwrnod cyn ei marw, na wybu hi ddim am heddwch yn yr Arglwydd Iesu Grist hyd y diwrnod hwnw, ond ei bod yn gobeithio ynddo yn awr.
Ei Thad Galarus.