MR. JOHN J. WILLIAMS, RACINE, WISCONSIN.

Yn ardal Racine, Wisconsin, Mr. John J. Williams, gynt o Beddgelert, Gogledd Cymru, yr hwn a ymfudodd i'r wlad on oddeutu 13 mlynedd yn ôl.

Ymsefydlodd ar y cyntaf yn Cleveland, Ohio; symudodd oddiyno i Chicago, lle y bu byw am oddeutu 6 mis; ac oddiyno i gymydogaeth Racine, blwyddyn i'r nadolig diweddaf.

Bu farw o'r darfodedigaeth y 6ed o Dachwedd diweddaf; gadawodd weddw a dau o blant, a ganwyd y trydydd yn mhen tair wythnos wedi ei farwolaeth, - ei oed ydoedd 35.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1855.