MR. WILLIAM R. WILLIAMS, COLUMBUS, WISCONSIN.

Myhefin 5ed, 1855, yn 66 mlwydd oed, Mr. William R. Ẃilliams, Henbant, Columbus, Wisconsin, o Gaeth-anadl (Asthma), yr hyn a'i poenai er ys blynyddau. Bu yn ddiacon gyda'r T. C. am dros 40 mlynedd.

Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon er ys yn agos i 10 mlynedd yn ol, - o'r Henbant, Clynnogfawr, Gogledd Cymru; perthynai i'r Capel Uchaf yn y plwyf hwnw. Fel dyn yr oedd yn gyfaill ffyddlawn ag y gellid ymddiried cyfrinach iddo: nid oedd cadw y cyfryw yn gymaint trafferth iddo ag oedd i lawer, o ran yr oedd o duedd dawedog. Fel Cristion, rhodiodd yn ddichlynaidd. Yr oedd yn hynod am ymddiried yn nhrefn Rhagluniaeth - arferai ddywedyd fod pob camog yn yr olwyn yn fuddiol - mai trefn y Nef yw yr oreu, a.y. ac yr oedd ei ddydd yn galw am y cyfryw nerth. Cyfarfu a phrofedigaethau chwerwon yn y wlad hon; gwelodd gladdu o'i dy ei hun - ei ddaw, ei wyr, tair o'i ferched, a'i unig ddau fab; bu farw y diweddaf (William), Awst y llynedd, tu'a 30 oed, yr hwn oedd yn "lle llygaid" i'r teulu.

Fel swyddog, yr oedd y gwaith yn bwysig ar ei galon a'i ysgwyddau. Yr oedd yn hynod yn yr eglwys am gael hyd i brofiad pawb, a rhoddai yn wastad gynghorion hynod gyfaddas iddynt. Fel esiampl, mae yn gofus gan rai o'i gyfeillion fod gwraig yn yr Hen Wlad, amryw flynyddau yn ól, ag oedd mewn anghydfod er ys tro â chwaer grefyddol, yn adrodd y geiriau hyny yn y gyfeillach eglwysig fel profiad, "Ewch i mewn trwy y porth cyfyng," a.y. Gofynodd iddi, a wyddai beth oedd y "porth cyfyng," a hithau yn methu dyweyd gyda nemawr o drefn. " Dyna y 'porth cyfyng,'" meddai yntau, "'Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, gwnewch dda i'r sawl a'ch casant, a gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi, ac a'ch erlidiant;' dyna y 'porth cyfyng.'" Ac addefai y wraig ar ol hyny i'r cymhwysiad yna fod yn lles mawr iddi.

Yx ôëdd ei gynnefindra â "Gurnal," a'i graffder i ddewis y sylw priodol o hono at yr amgylchiad, yn ei addasu yn hynod i hyny. Rhywbeth yn debyg i'w fywyd oedd ei gystudd a'i 'angau; deallid weithiau fod ei feddwl yn llawn o bethau crefyddol, er na ddywedai lawer. Yr oedd crefydd yn ei gynnal, er nad oedd yn hynod orfoleddus arno. Yr oedd ei feddwl weithiau yn dyrysu ond rhywbeth am Iesu Grist oedd ganddo yn wastad. "Tewch, tewch," meddai wrth ei wraig unwaith, " efallai y cawn hyd i Iesu Grist toc." " Ymdawelwch," meddai dro arall, "ymwared a gyfyd i'r Iuddewon o le arall. "Sylwai dro arall; ar y wraig yn wylo, "Beth sydd arnoch, beth sydd arnoch meddai yntau. "Rhyw ddigalondid," meddai hithau, "wrth eich gweled yn wael a phobpeth." " Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," meddai yntau, "mae pob llywodraeth gan Iesu Grìst. O! werth anhraethol," meddai, gan wylo, "fod yn ffrind i Iesu Grist." Gofynai cyfaill iddo unwaith, "Pa un ai rhoi i fyny i farw yr oedd, ai meddwl byw dipyn eto" "O marw,"meddai yntau, "marw yni brysur ydwyf fi." "Beth sydd yn cadw eich meddwl i fyny?" "Yr adnod hono," meddai yntau, "Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." "Cael gafael arno yw y gamp, meddai, wedi tewi am ennyd. "Gwyddoch y fan, medd y cyfaill, "a gwyddoch am geisio pwyso arno." "Gwn, gwn," medd yntau, yn lled benderfynol, er nad â llawer o fost. Ac yn yr agwedd yna bu yr hen bererin farw, er colled a theimlad dwys i'w deulu ac i eglwys Bethel. Yr ydoedd yn drydydd o'i swyddogion hynaf a dorwyd i lawr gan angeu mewn llai na blwyddyn.

Gweinyddwyd wrth gychwyn y gladdedigaeth, wrth y bedd, ac yn y capel, gan y brodyr David R. Williams a John J. Roberts.

Y Cefaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1855.