MRS. CATHERINE CADNER, UTICA, ONEIDA COUNTY NEW YORK.

Ionawr 5ed, 1856, yn Utica, o'r darfodedigaeth Catherine Cadner, merch i Griffith a Jane Evans, gynt o blwyf Llangwnadl, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Yr oedd yn ei chystudd yn ddyoddefgar, ac yn hiraethlon am foddion gras, ac yn gofidio na buasai wedi bod yn fwy ffyddlon cyn colli ei hiechyd; ond bu y cystudd yn foddion i'w dwyn at ei chyfiwr, a'i chyflwr at y Gair, a lle da i obeithio fod y Gair wedi ei harwain at Iesu Grist.

Bu farw yn dawel, gau adael rhybudd arall i fod yn barod.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1856.