MRS. CATHERINE DAVIES, TAN YR HILL, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gweddw Mr. Williams Davies, Tan yr Hill, Steuben.

Nis gwyddom fawr am dani yn moreu ei hoes.

Genedigol oedd o Leyn, swydd Gaernarfon.

Cymerodd i fyny a chrefydd pan yn ienanc. Bedyddiwyd hi ar broffes o'i ffydd yn Capel Rhoshirwain. Priododd ag un o'r enw Robert Williams, Aberdaron.

Ers 28 o flynyddau yn ól daethant drosodd i'r America gyda dwy ferch, a darfu iddynt ymsefydlu yn Steuben, swydd Oneida.

Cyfarfu yma â phrofedigaeth chwerw, sef claddu ei gwr yn mhen tua 5 mlynedd ar ól cyrhaedd tir America, Priododd yr ail waith â Mr. Wm. Davies, Star Hill. Parhaodd yr undeb yma 19 o flynyddoedd pan y bu farw Mr. Davies.

Dyoddefodd ein chwaer hon gystudd trwm am yn agos i 7 mlynedd. Ei chystudd oedd Inflammatory Rheumatism. Yr oedd yn awyddus iawn am gael moddion gras a chlywed pregethu yr efengyl hyd y diwedd. Bu ysgrifenydd y llinellau hyn yn pregethu yn ei thŷ yn aml am y chwe' mlynedd diweddaf o'i hoes. Yr oedd yn aelod eglwysig yn y Capel Isaf, Steuben. Cwynai lawer ei bod mor bell yn byw oddiwrth yr Arglwydd; ond eto ymddangosai ei bod wedi ei huno trwy ffydd â'r Gwaredwr, ac ymhyfrydai yn yr olwg ar y boreu ag y bydd ar ei ddelw.

Bu farw Ionawr 4ydd, 1856, ac ar y 6ed cyfarfu tyrfa luosog i weinyddu iddi y gymwynas olaf. Claddwyd hi yn mynwent y Capel Uchaf, Steuben, pan y gweinyddwyd gan y brodyr D. J. Williams a R. Everett.

Gadawodd un ferch i alara ar ôl ei hanwyl fam, sef Mrs. Jane Jones, ac nid gormod yw dweyd na ddangosodd yr un plentyn erioed fwy o ofal a thynerwch na Mrs. Jones i'w mam hyd y fynyd ddiweddaf. Taled yr Arglwydd iddi yw gwir ddymuniad yr ysgrifenydd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1856.