MR. ROWLAND JONES, COLUMBUS, WISCONSIN.
Mawrth 20fed, 1856, yn Sefydliad Columbus, Wisconsin, y brawd Rowland Jones, gynt o Lanrug, Gogledd Cymru, yn 68 mlwydd oed.Ymfudodd oddiyno gyda'i deulu i'r wlad a'r ardal hon tua deng mlynedd yn ôl. Yr oedd yn un hynod o gadarn a selog dros y gwirionedd, a theimlir colled nid bychan ar ei ôl. Profodd ei hun hyd ddiwedd ei oes yn gymydog caredig, yn Gristion didwyll, ac yn frawd anwyl.
Dyma y pedwerydd hen frawd a gollasom oddiar faes y frwydr o'r eglwys hon (T. C), er ys ychydig gyda blwyddyn a hanner yn ôl. Nis gallwn lai nag ymofyn gyda syndod, "Y tadau, pa le y maent hwy?"
Hebryngwyd ei weddillion y Sabboth canlynol i gladdfa Bethel gan dyrfa luosog o'i hen gyfeillion. Pregethodd v Parch. J. J. Roberts ar yr achlysur oddiar 1 Cor. xv. 26.