MRS. ELLEN PUGH, WATERTOWN, WISCONSIN.
Rhagfyr 8fed, 1856, yn Watertown, Wisconsin, ar enedigaeth plentyn, Ellen, priod Mr. Howell Pugh, yn 21 oed.Merch ydoedd i'r diweddar Mr. Ellis Thomas, Carog, Bryncroes, Lleyn. Daethant a'i chorff i'w gladdu i fynwent Penygraig, Remsen, Caerefrog Newydd, wrth ochr ei thad, Rhagfyr 15fed.
Gadawodd briod a baban i alaru ar ei hol. Ni bu yn briod ond yn brin flwyddyn.