DAFYDD (DAVID) ROBERTS. HOLLAND PATENT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd 24ain, 1856. Yn nhy ei dad, ar y Bryn Mawr, ger Utica, yn 26 oed, o'r typhoid fever, David Roberts, mab Mr. Cadwalader Roberts, gynt o Gwmtylo, Llanuwchllyn, swydd Feirionydd, Gogledd Cymru.

Dydd Sadwrn canlynol, ymgynnullodd tyrfa luosog o'i gydgenedl i hebrwng ei gorff i dy ei hir gartref, yn mynwent perthynol i gapel y Trefnyddion Calfinaidd yn y Ue uchod. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. William D. Williams (A.), a'r ysgrifenydd. Yr oedd y brawd ieuanc uchod wedi ei fagu yn yr eglwys gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ac yn gyfiawn aelod er ys amryw flynyddau. Yr oedd yn hynod o ddiwyd yn chwilio yr Ysgrythyrau, a'u trysori yn ei gof, a chredwn ei fod yn gwybod amn eu hamgeledd i'w anfarwol enaid; ac felly yr ydym yn gobeithio ei fod wedi ehedeg i well gwlad i breswylio, ac y daw yr hyn sydd wedi ei hau mewn gwendid, ar ganiad yr udgorn, i fyny mewn nerth i ganu yr anthem heb floesgni am dragywyddoldeb. Y mae yma eto alwad rymus ar holl ieuenctyd y Bryn Mawr a'r holl wlad i fod yn barod, "Canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn."
RlCHARD ISAAC.
Dymunir ar fr uchod gael ymddangos yn yr Amserau.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1857.