MR. WILLIAM GRIFFITH, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn Steuben, dydd Gwener, y 15fed o Fai, 1840, wedi rhai wythnosau o gystudd, Mr, William Griffith, yn 76 mlwydd oed. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn y Sefydliad hwn.Nid oes ond dau yn Steuben yn awr ag oeddynt yma o'i flaen ef. Ymfudodd i America yn mis Mehefìn yn y flwyddyn 1795. Treuliodd beth amser gyda pherthynas iddo yn Connecticut, Lloegr Newydd, a daeth i fynu i Steuben yn 1798. Yr oedd William. Griffith yn enedigol o Aberdaron, Lleyn, Gogledd Cymru; yn aelod eglwysig gyda y Trefnyddion Calfinaidd yn Uwchymynydd, Lleyn, a chyda y Cynulleidfawyr yn Steuben hyd ddydd ei farwolaeth. Daeth tyrfa luosog ynghyd ar ddydd y claddedigaeth, a rhoddwyd ei ran farwol i orwedd mewn beddrod yn mynwent y Capel Uchaf hyd ddydd yr udganiad diweddaf.