MRS. MARIA ROBERTS, PROSCAIRON, COLUMBIA, WISCONSIN.

Priod y Parch. Thomas H. Roberts, Proscairon, Swydd Columbia, Wisconsin.

Och! angeu echryslawn, mae'n amlwg in' heddyw
Nad oes genyt ronyn o deimlad na bri,
I neb o blant Adda, amddifad na gweddw,
Na'r baban diniwed, er gwaned ei gri;
Cymylau a thywyllwch sy'n gaddug o'th amgylch,
A thywyllwch dywellti lle bynag y troi;
Darfuasai am danom pe nas gall'sem edrych,
Am wlad o lawenydd tu draw it'i ffoi.

MRS. ROBERTS ydoedd ferch i Mr. Griffith a Margaret Parry, gynt o Bodryn, Llandwrog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Magwyd hi'n yr eglwys dau ofal ei mam, ond nid hir y cafodd lonydd gan y gelyn - perswadiodd hi yn ieuanc i adael Tŷ Dduw, ac ymofyn pleserau gau; ond buan y profodd nad oedd ynddynt wir fwynhad, a phan oedd tua 14 oed, dychwelai yn ôl yn ostyngedig i ymofyn cartref yn y fan y teimlodd, yn ddiau, ryw felysder gwirioneddol o'r blaen; a chafodd y fraint o gael ei galw fel ysgub blaenffrwyth yn yr eglwys hono, oblegid hi oedd y gyntaf o ugeiniau a ddaethant ar ei hol.

Yn y flwyddyn 1845, ymfudodd gyda'i theulu i'r wlad hon, a sefydlasant yn agos i Lyn Apucaway, swydd Marquette, Wisconsin. Yma y daethom i gydnabyddiaeth â hi gyntaf; a buan yr ennillodd ein cymeradwyaeth fel mereh ieuanc sobr a gwylaidd, ac er nad oedd ond isel ac ofnus o ran ei phrofiad, fynychaf, yr oedd rhyw obaith ffyddiog yn pelydru yn brydferth o ganol yr amheuon duaf.

Cyn hir bu farw ei thad, yr hwn a fawr hoffai, ac wedi hyny ei brawd a'i unig blentyn; hyn, yn nghyda cholli brawd a chwaer eraill iddi yn mlodau eu dyddiau, o'r darfodedigaeth, pan yn yr Hen Wlad, a barai i'n chwaer ofni yn feunyddiol teimlo crafannau yr un afiechyd marwol yn ymaflyd ynddi hithau; a mynych y tystiai nad oedd iddi yma ddinas barhaus.

Ionawr 29ain, 1831, ymbriododd â'r Brawd Thomas. H. Roberts, a chafodd ynddi briod ffyddlon a phwyllog, fel y tystiai na welodd unwaith arwyddion dig yn ei gwedd; ac ymdrechai bob amser roddi pob mantais iddo i fyfyrio - ni ddywedai air i'w ddyrysu, ac ni oddefai i eraill wneyd. Mynych gwynai na chawsai ei holl amser at y weinidogaeth, ac annogai ef i ymryddhau oddiwrth ofalon bydol, ac ymddiried i Ragluníaeth y Nef i'r dyben; ac oddiar yr un egwyddor, parchai ac amgeleddai bob pregethwr o'i chalon, a dangosai ofal neillduol am achos Duw yn gyffredinol. Darllenai ei Beibl yn fanwl, a threulîai lawer o amser ar ei gliniau cyn rhoddi hûn i'w hamrantau, yn enwedig y rhan ddiweddaf o'i hoes.

Tua dwy flynedd yn ôl, bu yn wael iawn yn ninas New York, ar eu dychweliad o Pennsylfanìa, a bu yn fwy gwanaidd nag arferol ar ôl y tro hwn; ond mynych y soniai yn barchus am y caredigrwydd a'r tynerwch rhyfeddol a dderbyniasant oddiwrth y teulu caredig yr arosasant gyda hwynt yno, a chyda dagrau yr hiraethai am y cyfeillion siriol a adawsai yn Slatington, Pennsylvania. Dyoddefai bob gwendid a gwaeledd yn amyneddgar, gan ymdrecbu uwchlaw ei gallu i amgeleddu ei phriod a'i theulu. Gorfodwyd hi o'r diwedd i gadw y tŷ yn hollol, ac ar y laf o Fai diweddaf, ganwyd iddi ei hail blentyn. Daeth trwy y bwlch cyfyng hwnw yn llawer gwell nag yr ofnai, a diolchai yn gynnes am gymhorth y Brawd a anwyd erbyn caledi, ac annogai ei phriod i ddiolch i Dduw drosti.

Ymddangosai yn gwella dranoeth, ond yr ail ddydd pallodd ei harchwaeth at fwyd, prysurodd ei gwendid, ac aeth yn hynod gysglyd. Un tro wedi deffro, dywedai wrth ei phriod, "Yr oeddwn yn meddwl neithiwr, pan oeddwn salaf, na ddemnid mo honof. "Dro arall, gofynai ei phriod iddi, "A oedd yn ceisio ymddiried yn yr Arglwydd yn ei chystudd ?" Dywedai ei bod yn ymdrechu. "A ydych yn gallu?" " Ydwyf," ebe hithau. Dro arall, gofynai, "Oni fyddai yn well genych fyned at Iesu Grist i fyw byth, yn hytrach na bod yma?'' Atebodd, "Byddai."

Parhaodd i wanhau yn gyflym, fel nad ellid yn fuan ei deall; eto, gwelid ei gwefusau yn symud, a'i golygon yn dderchafedig, gan ymddangos mewn cymdeithas â'r nef, hyd brydnawn y 7fed, pryd y dystaw ddiangai ei henaid i fynwes ei Phrynwr, ac y gadawai ei rhai bychain a'i phriod yn nyffryn galar i ofal ei Thad.

Ar y lOfed, ymgasglodd llu mawr o Gymry o'r gwahano! ardaloedd cylchynol i hebrwng ei rhan farwol i'w dwwisedig feddrod yn mysg eu theulu, yn Rock Hill. Am 10 o'r gloch y boreu, yn nghapel Proscairon, wrth fyned heibio, pregethodd y Brawd John Daniels, Engedi, yn dra effeithiol oddiar Jos. iii. 4, ac anerchwyd y dorf wrth y bedd gan y Parch. William Jones, Welsh Prairie, ac yno, rhwng teimladau o ganu ac wylo y gadawsom ei rhan lygradwy hyd oni ddel i fyny ar alwad ei Gwaredwr.

O'r boddrod mewn hynod hedd,
I ganu ei ogonedd.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1856.