MR. LEWIS R. THOMAS, REMSEN, ONEIDA COUNTY NEW YORK.
Chwefror 15fed, 1856, yn nhŷ Mr. Emmanuel Jones, Steuben, ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd, Mr. Lewis R. Thomas, yn 69 mlwydd oed.Mab ydoedd yr ymadawedig i Richard a Mary Thomas or Bryncroes, swydd Gaernarfon, ac wyr i'r Parch Siarl Marc. Yn y flwyddyn 1795, ei rieni gyda saith o blant yn cynwys gwrthrych y sylw hwn a ymfudasaut i America, gan adael dau fab yn Nghymru, sef Evan ("Ieuan Lleyn") a'r diweddar Daniel Thomas o Steuben. yr hwn a ymfudodd cyn hir ar ôl y teulu. Bu y teulu hwn byw dros ychydig amser yn Tarrytown, ar lan yr afon Hudson, ac oddiyno ymfudasant i Philadelphia, Pennsylvania, ac oddiyno yn y flwyddyn 1802 ymfudasant i sefydlfa y Cymry yn Steuben, swydd Oneida, New York.
Bu yu dywyll o'i ddlau lygad am y 40 mlynedd diweddaf o'i oes. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf cofus a helaeth ei wybodaeth gyffrredinol yn mhlith ei gyfoedion. Gwyddai hanes gwyr y Gydgynghorfa ac enwogion y wlad yn gyffredin, i fanyldra neillduol. Yr oedd yn hoffus iawn o glywed darllen y Newyddiaduron a'r Cylchgronau, a chofiai yr hyn a glywai gyda chywirdeb mawr.
Yr oedd yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben ers llawer o flynyddau, ac yn mynwent yr eglwys hono y claddwyd ef yn barchus wrth ochr eraill o'i berthnasau a'i rhaflaenasant i'r byd tragywyddol. Gweinyddwyd gan R. Everett a M. Roberts.