MR. WILLIAM WILLIAMS, NEW YORK.

Awst 29ain, 1856, Mr. William J. Williams, carpenter, o ddinas New York, yn 31 oed, wedi bod yn y wlad hon am 12 mlynedd. Dullwedd ei farwolaeth, yn ôl yr hysbysiaeth a'n cyrhaeddodd ni, ydoedd fel y canlyn : Tra yn yfed cwpanaid o de mewn cwch pysgota, ychydig funudau wedi 2 ar gloch prydnawn, cododd awel ddysymwth o wynt; eisteddai yntau ar y pryd o'r tu ôl i'r cwch fel y tarawyd ef yn ddiatreg ac yn ddirybudd i'r môr, fel na welwyd mwy o ohono.

Cymerodd yr amgylchiad gofidus le yn White Bear's Bay, Newfoundland.

Ar y 3ydd o Dachwedd, 1855, ymbriododd â Miss Mary Boberts o'r ddinas hon; ac ar y 23ain o Fedi, 1856, ganwyd iddynt ferch yn absenoldeb ei thad. Ymadawodd y trancedig o Efrog Newydd ar y 24ain o Fai, yn ngwasanaeth Mri. Jonathan Purdy a'i Eab Carpeners and Builders, y rhai oeddent wedi cytno â chwmpeni yn y ddinas i adeiladu naw o Station Houses mewn cysylltiad â'r telegraph bwriadedig i Brydain Fawr.

Ni chyrhaeddodd y newydd galarus ei briod hoff a'i chwiorydd caruaidd hyd y 25ain o Dachwedd, 1856. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. William Parry, Ysguborwen, Dinorwig, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yr hwn oedd yn ŵr tra defosiynol a duwiol. Yr oedd ein cyfaill ymadawedig yn ŵr dichlynaidd ei fuchedd, yn ysgolhaig da, ac yn wraudawr cyson yn addoldy y Trefnyddion Calfinaidd, Efrog Newydd. "Byddwn barod, canys yn yr awr ni thybiom y daw Mab y dyn." Traddodd y Parch. W. Roberts bregeth ar yr achhysur oddiwrth Salm xc. 3.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1856.