MRS. ELIZABETH ARTHUR, PENYMYNYDD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 3ydd, 1857 yn ardal Penymynydd, Steuben, o'r Dyfrglwyf, Elizabeth Arthur, yn 76 mlwydd oed. Ymfudodd i'r wlad hon er's tua 32 mlynedd yn ôl, o Dy'n y Graig, y Rhiw, Lleyn, Gogledd Cymru. Yr oedd yn un o rai llariaidd y ddaear, o ysbryd addfwyn a thirion iawn, yn aelod ffyddlawn er's llawer o flynyddoedd bellach o'r eglwys Gynulleidfaol yn Penymynydd.

Yn nhŷ ei hanwyl chwaer, Mrs. Sarah Hughes, yr oedd yn cartrefu, ac yno yr hunodd yn dawel yn yr Iesu ar y dydd a enwyd.

Pregethwyd yn y gladdedigaeth gan ei gweinidog, R. Everett, oddiar Salm 23, yn nghyd a'r 17: 15.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1857.