MR. DAVID EDWARDS, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Medi 14eg, 1857, yn Utica, ar ôl pedwar niwrnod o gystudd trwm, yn 28 mlwydd oed, Mr. David Edwards.Mab ydoedd i Hugh Edwards, Penyffridd, Llanfor, ger y Bala, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon tna chwe' mlynedd yn ôl, ac wedi aros yn Utica yn nghylch dwy flynedd, ymunodd trwy briodas gyda Elinor Morris, merch i Hugh a Mary Morris o Pentrepiod, Llangower, ger y Bala, Gogledd Cymru; ond yn awr bu raid iddo adaei ei briod serchog, a'i ddau blentyn i alaru ar ôl tad tyner galon a phriod ffyddlon ac anwyl.
Bydded i'r Tad nefol eu cynnal a'u hamddiffyn yn eu profedigaethau. Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan yr ysgrifenydd.
L. D. HOWELL.