MRS. ANN EVANS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 6ed, 1857, yn Remsen, Mrs. Ann Evans, yn 71 mlwydd oed.Priod Evan Evans, gynt o'r Tŷ Fwg, Aberdaron. Cafodd y fraint o ymuno â chrefydd yn amser y diwygiad mawr fu yn Steuben a'r cylchoedd, 19 mlynedd yn ôl, a pharhaodd i lynu gyda'r achos da hyd y diwedd.
Rhoddwyd ei chorff i orwedd yn mynwent Fairchild - gweinyddwyd gan J. D. Jones ac E. Salisbury.