MISS. MARGARET JANE EVANS, BETHEL, JACKSON COUNTY, OHIO.

Awst 12fed, 1857, o'r Convulsion fits, Margaret Jane, merch i Mr. Evan a Catherine Jones, ger Bethel, swydd Jackson, Ohio, gynt o ardal Bala, yn 3 blwydd a 3 mis oed.

Ei mam a fu farw o'r cholera wrth ddychwelyd o Wisconsin tua thair blynedd yn ôl. Cymerwyd y plentyn i'w magu gan John ae Eleanor Evans, yn ardal Sardis, y rhai a deimlant alar mawr ar ei hol. Hi a fu farw.

Gweinyddodd y Parch. E. Williams y gwasanaeth crefyddol ar yr achlysur.
R.H.EVANS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1857.