MRS. SARAH EVANS, TURIN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 3ydd, 1858, yn Turin, Lewis County, bu farw Sarah, gwraig Jabez Evans, yn 20 mlwydd oed.

Yr oedd ein chwaer ymadawedig yn ferch i Mary a G. W. Griffiths, gynt o Aberdaron, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Cafodd ei dwyn i fyny yn yr eglwys gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Derbyniwyd hi yn gyflawu aelod, pan yn l4eg oed, a daliodd afael yn ei phrophes hyd ddiwedd ei hoes; ac nid hyny yn unig, ond y mae yn ymddangos fod ganddi grefydd iawn. Fel hyn yr ysgrifena ei thad ataf': "Yr oedd yn dra hoff o ddarllen ei Beibl a llyfrau da eraill.

Dyoddefodd ei chystudd yn dawel a dirwgnach. Cynghorodd ei chwaer ac eraill oedd yn bresenol y diwrnod cyn iddi ymadael i weddio yn ddibaid - i lynu wrth grefydd hyd y diwedd, a choffáodd yr adnod ganlynol: 'Y neb a barhao hyd y diwedd, hwnw fydd cadwedig.' Dywedodd wrth ei mam ei bod hi yn myned ymaith, ac nad oedd ganddi ddim i'w wneyd, ond dal gafael yn y Cyfaill oedd yn dyfod gyda hi, a'i bod yn dysgwyl cael ei chwmni mewn gwell gwlad a gwell sefyllfa. Cynghorodd ei hanwyl briod i beidio wylo ar ei hol hi, canys meddai, 'Rwyf yn teimlo fy nhraed ar y Graig.'

Cyflwynodd ei baban bach 9 wythnos oed i Dad yr amddifaid i'w fagu a gofalu amdano - tranoeth hunodd yn yr lesu.' Dydd Mawrth canlynol, ymgasglodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson i hebrwng ei chorph i dŷ ei hir gartref, yn nghladdfa Turin. Gweinyddwyd yu y tŷ cyn cychwyn, ac yn y' capel - yn Gymraeg, gan yr Ysgrifenydd; ac yn Saesoneg, gan y Parch. Mr. Bond.
R. ISAAC.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1858.