MR. WILLIAM EVANS, PICATONICA, MIFFLIN COUNTY, WISCONSIN.

Medi 3ydd, 1857, yn ardal Picatonica, plwyf Mifflin, Wisconsin, William Evans, genedigol o sir Gaernarfon.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1846, o dyddyn a elwir Cae y Bwcle. Gadawodd ei deulu ar ol yn Nghymru, a daeth i'r wlad hon er enill arian a danfonodd am danynt, ond bu farw ei anwyl wraig cyn cyrhaedd ato, a chladdwyd 3 o'i blant yma, ac felly cyfarfyddodd ein brawd รข llawer o brofedigaethau wedi dod yma. Ond daliodd yn ngwyneb y cyfan yn dawel iawn, gan ddweyd yn barhaus, Yr Arglwydd a roddodd a'r Arglwydd a ddygodd ymaith, bendigedig fyddo ei enw. Un o'r dynion mwyaf tawel ag a welais enioed ydoedd yn ngwyneb pob peth a'i cyfarfyddai.

Bu yn proffesu crefydd am 25 o flynyddoedd, a daliodd ei ffordd hyd y diwedd. Aelod ydoedd perthynol i'r Annibynwyr.

Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parch. Evan Owen, Dodgeville.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1857.