MR. ELLIS GRIFFITHS, CAERGYBI, DODGEVILLE, WISCONSIN.
Ebrill 8fed, 1857, yn Caergybi, ger Dodgeville, Wisconsin, ar ôl hir nychdod yn y diffyg anadl [Asthma,) yn 43 mlwydd oed, Ellis Griffiths.Claddwyd ef yn nghladdfa Dodgevüle. Yn ei gladdedigaeth pregethodd y Parch. E. Owens (A.) cyn cychwyu a'r corff yn briodol iawn oddiwrth Heb. 13: 14, a thraddododd y Parch. W. Owen (T. W.) araeth ar lan y bedd.
Mae iddo ddau frawd yn Caergybi, a dau arall yn Salem, Washington County, New York. Daeth y brawd ymadawedig i'r wlad hon 12 mlynedd yn ôl o'r Tyddyn Charles, Llanberis, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Bu'r blyneddau olaf o'i oes yn aelod prydferth gyda'r Annibynwyr. Yr oedd yn rhyfedd amyneddgar yn ei gystudd, a dyma'r geiriau a ysgrifenodd yn ei ddydd lyfr ychydig oriau cyn marw, yn amlygu ei ymddiriedaeth yn ei Dduw. "Yn dy bresenoideb di a than nawdd dy gariad, mi a allaf ddyoddef unrhyw drallod, ac yr wyf yn ewyllysgar i ddyoddef pob peth, os bydd i mi trwy hyny gael fy ngwneyd yn fwy hawddgar yn dy olwg, ac yn fwy cymwys i'th deyrnas."
Felly gwynebodd y glyn mewn llawn hyder ffydd. Yr Arglwydd a nertno ei frodyr a ninau oll i ymddiried ein hachos i'r un gŵr, canys y mae efe yn derbyn pechaduriaid.
Mae'r ing a'r boen, mae'r angaa a'r bedd - 'n weis
I'n lesu mewn sylwedd,
Er cludo'i eiddo i hedd
Gaer ei fawl gwir orfoledd.
Ag Ellis trwy rym y galwad - gyr-chwyd
I'r gorchwyl o gariad,
I ddilys roi addoliad
I'w Naf doeth a'i nefol Dad.
Hebryngwyd heibio'r angau - gan Engyl
At eang lawn drysorau,
I 'muno ei emynau
A llu nef sy'n llawenau.
GOG GLAN OHIO.