MRS. MARY GRIFFITHS, PROSCAIRON, WISCONSIN.

Rhagfyr 6ed, 1857, yn ardal Columbus, Wisconsin, yn 24 mlwydd oed, Mary, gwraig Edward Griffiths, a merch William a Catherine Parry, o ardal Proscairon, gynt o Bangor, Gogledd Cymru.

Dioddefodd gystudd trwm, yn enwedig gan ei phen, yn mha le yr oedd prif ffynonell ei hafiechyd; ond dywedai yn nghanol y cwbl, fod "Brawd wedi ei eni erbyn caledi."

Prydnawn dydd Gwener canlynol, casglodd torf luosog a pharchus i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref, a rhoddwyd hi i orwedd yn dawel yn mynwent Salem, hyd y boreu mawr.

Gadawodd briod a phlant bach; a'r Arglwydd a ofalu am danynt. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. David Williams, pryd y pregethodd yn y capel gerllaw y gladdfa, ar "Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon, yw yr Arglwydd yn ei gysegr santaidd."

O fy anwyl chwaer naturiol -
'Hedodd draw i'r byd ysprydol-
Pa'm gadewaist fi i alaru,
Oedd yn d'anwylo a dy garu.

Cyn pen gronyn byddaf inau
Yn'r ymdrechfa fawr ag angau.
O! y Cyfaill gwirioneddol,
Gad im fyn'd i'th deyrnas nefol.
GALARUS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1858.