MRS. ANNE JONES, FREEDOM, CATARAUGUS COUNTY, NEW YORK.

Rhagfyr 9fed, 1857, yn nhŷ Mr. Wm. J. Williams, Freedom, Cataraugus County, New York, yn 79 mlwydd oed, Mrs. Anne Jones, mam i Mrs. Williams - gweddw i'r diweddar Mr. William Jones, Floyd, Oneida County, New York, a chwaer i Mrs. Jane Jenkins sydd yn byw yn mhlwyf Newport, Herkimer County, New York.

Ganwyd, magwyd, priodwyd, ac achubwyd, yn ôl pob tebygrwydd, wrthddrych ein cofiant, yn mhlwyf Aberdaron, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Symudodd hi a'i theulu i'r America, 27ain mlynedd yn ôl. Proffesodd Grist yn nghyfundeb y T. C., 41 o flynyddoedd, a bu yn weddw 18 miynedd, ac yn y diwedd bu farw yn ddistaw bach, bron yn ddiarwybod iddi ei hun, a phawb oedd o'u hamgylch. Llithrodd drwodd i'r ochr draw, heb nemawr o gyfnewidiad amlwg a phoenus i'w ganfod arni. Dywedir ei bod yn un hyddysg yn yr Ysgrythyrau, a thrysorodd lawer o honynt hwy, a'r weinidogaeth nerthol a glywsai, aml bryd, yn yr Hen Wlad, i'w chôf, a hoff fyddai ganddi eu dwyn allan yn ei hymddyddanion.

Adroddodd y 119 Salm allan, i glywedigaeth arall, nid rhyw lawer cyn marw - gorchwyl ag sydd yn anhawdd, os nid yn anmhosibl, i'r lluaws mwyaf o honom yn Gymry a Chrefyddwyr y dyddiau hyn.

Ei chymeriad ydoedd dangnefedd, ac i dangnefedd yn ddiau yr aeth.

Prydnawn y l0fed, claddwyd hi wrth gapel y T. C, yn Freedom. Cyn ei symud o'r tŷ, darllenwyd rhan o'r Gwirionedd a gweddiwyd gan y Parch. H. Parry, (A.) Yna wedi hir daith, dygwyd ei chorph i'r capel crybwylledig, pryd y traddodwyd pregeth ar yr achlysur, gan y Parch. J. Williams, (T. C.,) a chyfarchwyd ni drachefn wrth lan y bedd gan y brawd Parry.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1858.