MISS ELINOR JONES, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
lonawr 18fed, 1857, yn Marcy, Caerefrog Newydd, Elinor, merch i.Mr. Hugh ac Elizabeth Jones, gynt o Hendre Howel, ger Tremadog, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.Claddwyd hi ar y 21ain, a gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. Ioan Hughes (B.) Yr oedd yn aelod proffesedig yn Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn Utica, a pharhaodd felly hyd ei bedd.
Dyoddefodd gystudd maith yn hynod dawel a dystaw, a chafodd y fraint o fyfyrio llawer ar amser ei hymddattodiad, yr hwn oedd yn nesau o ddydd i ddydd; a dywedai fod ganddi feddwl mawr iawn am Iesu Grist, a'i bod yn glynu gyda hi o hyd, a bod Duw wedi maddeu y cwbl iddi er ei mwyn ef. Cynghorai lawer ar ei brodyr a'i chwiorydd i ddysgu Gweddi yr Arglwydd, ac wylai weithiau rhag ofn iddynt fod yn annuwiol.
Nos Wener cyn ei hymadawiad, gofynais iddi a oedd yn dda ganddi ei bod gyda chrefydd. Atebodd yn siriol fod yn ddrwg ganddi ei bod wedi meddwl yn rhy ysgafn am grefydd, a chrefydd yn beth mor bwysig. Dywedai lawer wrthyf am grefydd yn ei symlrwydd. Yr oedd yn hynod siriol pan y deuai brodyr crefyddol i edrych am dani yn aml, ac wrth gadw dyledswydd hwyr a boreu, byddwn yn clywed ei hocheneidiau yn ddwys, nes byddent weithiau bron fy attal iawer tro, a boreu Sabboth ymadawodd mewn tangnefedd.
Gadawodd dad a mam, tri brawd, a phedair chwaer, i alaru ar ei hol.
EI THAD GALARUS.