MR. THOMAS JONES, FRENCH ROAD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mab William a Gaynor Jones, Talar Nant, Bodferin. Ganwyd yn 1793. Bu ei dad William Jones farw yn 1800 pan oedd Thomas yn saith oed.

Priododd Gaynor ei fam yr ail waith gyda Robert Arthur, o Lletyurin, Rhoshirwaun, ac wedyn symyd i Ty Ruttan, Bryncroes.

Thomas Williams yn priodi gyda Elinor Roberts o Penllech, Bryncroes yn Eglwys Santes Fair Bryncroes ar 7/2/1818. Ar ôl priodi Thomas ac Elinor yn byw ar fferm Rhydlios ym mhlwyf Aberdaron.

Yn 1827 y teulu yn ymfudo i America ar fwrdd y Brig Marquis of Anglesey, cychwyn o Bwllheli ar 8 Mehefin 1827 . Y mwyafrif o'r teithwyr ar y llong yn dod o Lleyn, 93 o honynt. Ar y rhestr teithwyr gellir gweld:-

Thomas Williams 34
Ellin Roberts 37
Robert Williams 5
William Williams 3
Jannet Williams 1

Ar ôl cyrraedd America sefydlu ar fferm yn ardal French Road, Remsen, a galw eu fferm newydd yn Rhydlios ar ôl enw eu fferm yng Nghymru. Yn America y teulu yn defnyddio y cyfenw Jones. Ganwyd mab arall iddynt yn 1831 John T Jones.
Bu Elin Jones farw ar 3 Mawrth 1854 yn 65 oed. 1789 - 1854.
Bu Thomas W Jones farw ar 25 Fawrth 1857 yn 64 oed 1793 - 1857.
Bu Jennet Jones farw ar 3 Tachwedd 1854 yn 28mlwydd 8 mis a 1 diwrnod oed.
William T Jones 1823 - 1888.
Robert T Jones 1821 - 1897.
John T Jones 1831 - 1901.

Mae'r teulu i gyd wedi cael eu claddu ym mynwent Capel French Road, Steuben.

Yr oedd Thomas W Jones wedi ysgrifennu amrhyw o lythyrau i'w frawd John Williams, Pen y Graig, Bodferin yn adrodd hanes y teulu a'u cymdogion yn America ac mae yna 19 o'r llythyrau yma wedi cael ei diogelu yn Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon. rhif X/M/3321/1 - 19.

Robert T Jones wedi priodi Gwen merch Ellis Prichard (neu Abraham) genedigol o Ty Newydd Gelliwig. Ar ei charreg fedd mae Winifred wife of Robert T Jones.

Glyn Roberts ~ Awst 2021.


MR. THOMAS JONES, FRENCH ROAD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 25ain, 1857, yn ardal French Road, Steuben, Mr. Thomas Jones, gynt o Rydlios, Lleyn, yn 64 mlwydd oed. Yr oedd yn ŵr o gymeradwyaeth mawr yn ei ardal, yn aelod ac yn flaenor tra ffyddlon yn eglwys y T. C. yn Hebron, French Road, ers blynyddau lawer.

Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y brodyr Evan Morris ac Ebenezer Salisbury.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1857.


MR. THOMAS JONES, FRENCH ROAD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ganwyd ef mewn lle a elwir "Y Llan," yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r America yn 1847(camgymeriad - 1827 ddylai'r dyddiad fod KP), ac ymsefydlodd, tra bu yma, yn y French Road, Swydd Oneida, Efrog Newydd.

Ymunodd a'r Eglwys yn y lle uchod, yn 1830, pan nad oedd ynddi yr un mab ond ef ei hun - dim ond ychydig o chwiorydd yn ceisio cadw tŷ y nos trwy gyd-gyfarfod a'u gilydd i gyd-ymddyddan am waith yr Arglwydd ar eu heneidiau. Gellir dweyd am ein brawd ymadawedig iddo ymddwyn yn deilwng i'w broffes hyd ddiwedd ei oes, yn ei deulu, yn yr eglwys, ac yn y gymydogaeth. Bu am y rhan fwyaf o'i oes grefyddol yn ffyddlon iawn yn yr eglwys fel blaenor. Yr oedd yn hynod serchiadol yn yr Ysgol Sabbothol fel athraw, ac yu un gofalus iawn am gadwraeth y Sabboth. Dysgai lawer o'r Beibl ar ei gôf. Adroddai lawer o'r pregethau yn ei deulu ac yn yr eglwys.

Cafodd iechyd rhagorol hyd o fewn ychydig ddyddiau i'w farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth 25ain, 1857. Mwynhaodd lawer o gysur yn ei gystudd angeuol, oddiwrth amryw adnodau a hymnau, megis "Ar y Graig hon yr adeiladaf fy eglwys." — "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," a.y. "Mae'r iachawdwriaeth fel y môr," a.y. Bu yn fíyddlon hyd angeu. Codai o'i wely tra gallodd, i ofyn bendith a diolch am y bwyd bob pryd; ac ar ôl iddo fethu codi, parai i'w fab ddarllen pennod o'r Beibl, a gweddiai yntau yn y gwely. Gwnai hyny hyd ei ddyddiau olaf, ac anogai ei dri mab yn ddifrifol iawn i ymofyn am grefydd gyda rhyw enwad, oblegid nid oedd un o honynt yn grefyddol pan fu eu tad farw, ond yn awr mae ei ddymuniadau wedi eu cyflawni, a'i weddiau taerion wedi eu hateb, canys fe ddaeth y tri i'r eglwys yn mhen ychydig wythnosau ar ôl ei farwolaeth.

Aeth y gwas da a ffyddlawn hwn i mewn i lawenydd ei Arglwydd, yn 63 oed. Claddwyd ei gorph yn nghladdfa y French Road. Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol ar yr achlysur gan Mr. E. Salisbury a'r Ysgrifenydd.
EVAN MORRIS.

Beth yw'r cwmwl du a welaf,
Uwch hen eglwysg y French Road?
Un o hen ffyddloniaid Israel,
A roes 'hedfa uwch y rhod.

O, mor felus ei gyfeillach,
Pan yn son am eiriau Duw!
Ai gynghorion i'r rhai ieuanc,
Yn dra hyfryd oedd i'n clyw.

Yn yr Ysgol rad Sabbothol,
Dysgu'r ieuainc oodd ei waith;
Dyfal oedd yn dod i'r moddion,
Tra llafurus trwy ei daith.
GWEN MORRIS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1858.