MR. TIMOTHY GRIFFITHS, STEUBEN, ONEIDA, EFROG NEWYDD.

Ebrill 14eg 1840, yn Steuben, swydd Oneida, TIMOTHY GRIFFITHS, Ysw., yn 59 mlwydd oed, a gadawodd deulu lluosog, gwraig ac wyth o blant, mewn dwfn alar.

Bu ei ymadawiad yn dra annysgwyliadwy; ac effeithiodd yr amgylchiad yn ddwys ar yr ardalwyr yn gyffredinol, yn enwedig ar ei anwyl deulu, ei luosog berthynasau eraill, a'r eglwys o'r hon yr oedd yn ael od gwerthfawr er ys llawer o flynyddau meithion.

Ymdrechwn anfon hysbysiad helaethach o fywyd ac amgylchiadau marwolaeth ein hanwyl frawd i ymddangos yn y Rhifyn nesaf.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1840


MR. TIMOTHY GRIFFITHS, STEUBEN, ONEIDA, EFROG NEWYDD.

Ganwyd Timothy Griffith, yn y Blawd-tŷ, plwyf Aberdaron, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, tua'r 12fed neu y 14eg o Fedi, 1780.

Yr oedd ei rîeni Griffith a Mary Griffith yn arddel crefydd Mab Duw, ac yn aelodau o'r Eglwys Annibynol yn y Capel Newydd, yr hon oedd mewn cysylltiad â'r Eglwys yn Mhwllheli, a than ofal gweinidogaethol yr un gweinidog.

Enw ei fam, ar ol ei thad, oedd Mary Walter. Merch ydoedd i Walter Williams, o Benros, yr hwn y crybwyllir am ei dduwioldeb a'i lafur mewn amseroedd erledigaethus, yn hanes bywyd y Parch. Lewis Rees, gynt o Lanbrynmair.

(Gwel Cenh. Rhif. lon- awr, tu dal. 4.) Bu hi farw pan oedd ei mab Timothy rhwng 7 ac 8 oed, ac felly disgynodd gofal dygiad i fyny y teulu a'u haddysgiadau yn gwbl ar eu tad, yr hwn oedd wr tra chyfrifol yn mhlith ei gymydogion, a nodedíg yn ei ofal am egwyddori ei blant yn egwyddorion yr Efengyl, a rhoddi esiamplau teilwng ger eu bronau. Un o gyffelyb ysbryd oedd ei wraig hefyd, a'i rhieni teilwng o'i blaen.

Fel hyn cafodd yntau yn ei febyd a'i ieuengctyd addysgiadau gwerthfawr â manteision rhagorol, pa rai yn ddiau a ddygasant eu heffeithiau arno, i roddi iddo y cymeriad mewn sefydlogrwydd a chadernid meddwl dros egwyddorion da, yr hyn oedd mor hynodol ynddo yn mhlith ei frodyr hyd ddiwedd ei oes.

Nis gall tafod byth draethu gwerthfawrogrwydd y fraint o gael ein dwyn i fyny yn moreuddydd bywyd dan ddylanwad duwioldeb, a ddyferion cyssegr Duw.

Ymfudodd Mr. Griffith i America yn gynar yn y fl. 1801, a sefydlodd tros oddeutu pedair blynedd yn Nghaerefrog Newydd. Daeth i fyny i Steuben yn 1805.

Ar y 13eg o Ragfyr, 1808, ymunodd yn y stâd briodasol â Chatharine, merch ieuengaf i John ac Ann Roberts, Crigau, Steuben, pa rai a ddaethant i America yn y flwyddyn 1800.

Rhoddodd yr Arglwydd iddynt naw o blant, tri o feibion a chwech o ferched. Bu un farw yn ei fabandod; y mae y lleill oll yn fyw, ac yr oeddynt gydá'u hanwyl fam alarus wrth ochr gwely eu hanwyl dad, mewn dagrau mawr, yn ei oriau diweddaf. Ymunodd Mr. T. Griffith â'r Eglwys Gynnulleidfaol yn Steuben, Ebrill 25ain, 1807, sef tair-blynedd-ar-ddeg-ar-hugain i'r un mis ag yr ymadawodd â'r byd.

Cafodd ei neillduo yn ddiacon yr Eglwys tua'r flwyddyn 1825, a pharhâodd i gyflawni dyledswyddou y swydd hon hyd ddiwedd ei yrfa ddaearol.

Yr oedd Mr. Griffith yn briod hawddgar a ffyddlon, yn dad tyner a gofalus, yn gymydog heddychlawn a thirion, ac yn un o gyfrif mawr gan ei frodyr yn Eglwys Dduw. Yr oedd yn nodedig yn ei ffyddlondeb a'i ymlyniad gydag achos yr Arglwydd mewn amseroedd o iselder ac aflwyddiant.

Llawer o dymrnorau tra isel a welwyd ar achos crefydd yn Steuben; ond sefyll yn gadarn a diysgog a wnaeth ein cyfaiil sydd yn awr wedi ein gadael; fel ag y gellir dyweyd iddo fod yn un o'r rhai hyny a gawsant y fraint o sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos.

Yr oedd achos yr Eglwys a'i helyntoedd yn agos iawn at ei feddwl. Pan y byddai rhywun yn colli ei le ac yn cam ymddwyn, yr oedd ei enaid mewn galar a thristwch. Nid llawer a ddywedai,ond yroeddyrhai ag oeddynt fwyaf yn ei gymdeithas yn gwybod yn dda am flinder ei feddwl ar y cyfryw achlysuron.

Bu yn gweinyddu yn y swydd o Ustus heddwch gyda chymeradwyaeth cyffredinol tros y naw mlynedd diweddaf o'i fywyd. Bu ei farwolaeth yn dra disymwth ac annysgwyliadwy.

Crybwyllwn yn awr yn fyr amgylchiadau ei farwolaeth. Gadawodd ei deulu yn iach a siriol fel arferol, prydnhawn dydd Llun, y 13eg o Ebrill di weddaf, i fyned i gyfarfod gweddi a gynhelid yn y capel y noson hono. Galwodd gydâg un o'i frodyr crefyddol a'i gyd henuriaid, ar ei ffordd i'r capel, a daethant yn nghyd dan ymddyddan am faterion pregethau a glywsant yn ddiweddar.

Aethant i'r capel. Gweddiodd amryw o'r brodyr. Dywedodd yntau ychydig o'i brofiad, a sylwodd ar bwysfawrogrwydd dybenion y cyfarfod.

Ond cyn diweddu ei weddi, sylwyd fod ei lais megys wedi tòri rhywfaint; ond ni chymerodd neb o honom ddim dychryn neillduol y fynyd hono. Gorphenodd ei weddi. Canwyd pennill, a gweddiodd brawd arall; ond cyn pen mynyd neu ddau, tra ar ei liniau o ílaen yr orsedd, gollyngodd ei afael yn yr eisteddle a chwympodd i lawr.

Cymerodd ei frodyr ef i fyny ; ond ni allai yngan gair!

Gwelwyd yn fuan ei fod wedi ei daro gan fath. o barlys, gan fod un ochr iddo yn ddiffrwyth. Anfonwyd am gymhorth meddygol, a ehymerwyd ef i dŷ un o'i gyfeillion crefyddol yn yr ardal, ac anfonwyd am ei deulu.

Ymddangosai y noson hono ei fod yn deall beth a ddywedid wrtho ar brydiau, ond trymhâodd y cystudd a gwelwyd yn fuan, er pob cymhorth a allasai y meddygon roddi, fod angau yn gwneyd ei waith yn brysur yn y babell briddlyd; ac am o ddeutu pump o'r gloch brydnhawn dranoeth, ymadawodd yn dawel, fel y mae ein gobaith, o fyd o gystudd a thrueni. Symudwyd ei gorph, gydâ ei deulu galarus, í'w dŷ annedd y noson hono.

Daeth tyrfa fawr yn nghyd ar ddydd y gladdedigaeth.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorffennaf 1840


MR. TIMOTHY GRIFFITHS, STEUBEN, ONEIDA, EFROG NEWYDD.

TIMOTHY GRIFFITHS, born in Carnarvonshire in 1780, came to this country in 1801, and to Steuben in 1805, where in 1808 he married Catherine, daughter of John W. and Ann Roberts (Creugieu).

He became a member of the Welsh Congregational Church of Steuben in 1807, and continued an active and zealous member during the remainder of his life. He was stricken with paralysis while engaged in prayer at Capel Ucha', never regained consciousness, and died within a few days.

Their children were Catherine, wife of Griffith G. Jones; John R.; Griffith; Ann, who married first William Roberts (Tre-fach), and second, John Roberts (Felin); Mary, who married a Mr. Jones; Caroline; and Laura.

A narrative history of Remsen, New York.