MR. WILLIAM JONES, MYNYDD GLAS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Tachwedd 9fed 1857, yn ei ffermdy a elwir y Commins, plwyf Remsen, ar ôl byr gystudd, Mr. William Jones, yn 90 mlwydd a 10 mis oed.Ymfudodd i'r wlad hon o'r Pentyrch üchaf, Llangybi, sir Gaernarfon, 29 mlynedd i'r haf diweddaf. Claddwyd ef yn mynwent y Capel Uchaf, Steuben, a gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y brodyr Owen Parry, R. Everett, Thos. Jones, diweddar o'r Pantglas, a M. Roberts.