MISS. ELIZABETH OWENS. UTICA, NEW YORK.
Gorphenaf 14eg, 1857, yn Utica, Miss Elizabeth Owens, merch Mr. William a Margaret Owens, Ty nant, Maentwrog, G. C, yn 19 mlwydd oed.Yn mis Ebrill diweddaf yr ymfudodd hí a'i brawd o'r hen wlad. Gadawsant dad a mam, yn nghyd a brodyr a chwiorydd, gan ddysgwyl yn ddiau cael gweled eu gilydd yn y byd drachefn, er pelled y fordaith.
Ond nid felly y bu, gwelodd yr Arglwydd yn oreu alw Elizabeth ato ei hun. Yr oedd yn eneth ieuanc brydferth ac addfwyn. Amlygodd ei hawydd i ymuno â'r Eglwys Annibynol yn Utica, ond ni chafodd fyned i'r gyfeillach grefyddol ond unwaith.
Ymaflodd clefyd marwol yn ei chyfansoddiad ac er ymdrech meddyg medrus a phob gofal, dirwasgodd ei henaid i fyd yr ysbrydion mewn llai na phythefnos o amser. Ond cofied ei pherthynasau galarus, mai gan Iesu y mae agoriadau y Bedd, nid oes neb yn cael eu gyru yno heb ei ganiatad neu ei oddefiad ef, a gall pan welo yn oreu ollwng carcharorion angau oll yn rhydd.
Daeth torf hardd o Gymry yn nghyd i'r gladdedigaeth, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan ddau o weinidogion y dref, sef y Parch. D. Price (Annibynwr,) a'r Parch. R. L. Herbert, (Wesleyad.)
* Bu y llythyr a gynwysai yr hanes uchod ar goll yn hir — cafodd ei ddanfon yn ffyddlon gan ei ysgrifenydd yn mis Awst, ond ni ddaeth i'n llaw hyd ryw bryd yn mis Tachwedd.