MRS ELLEN PARRY, PORTAGE PRAIRIE, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Yr ydoedd gwrthddrych ein testyn yn briod i Mr. John P. Jones, o'r lle uchod, ac yn ferch i Mrs. Mary a Mr. John Roberts, Tyddynyberth, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Symudodd hi a'i theulu i'r wlad hon, Mehefin, 1855, ac ymsefydlasant yn yr ardal grybwylledig. Daeth at grefydd yn y flwyddyn 1857. Cafodd dderbyniad i "gymundeb y saint." Derbyn- iodd y cymun unwaith.

Lluddiwyd hi gan amgylchiadau teuluaidd, yn fuan wedi hyny, fel nas gallai ddyfod i'r addoliad cyhoeddus. Y canlyniad fu rhoddi genedigaeth i ferch, yr hon hefyd a fedyddiwyd ar ddydd claddedigaeth ei mham, yn y tŷ. Ni chafodd Mrs. Parry amser i wella yn holliach, cyn yr ymaflwyd ynddi gan yr Enterie Typhoid Fever. Bu am tua phump wythnos dan ei arteithiau marwol, a dadgysylltodd y corph a'r enaid y 27ain o Dachwedd, 1857, yn 27 mlwydd oed.

Claddwyd ei rhan farwol yn nghladdfa Portage Prairie, yn agos i'r capel yn mha un yr oedd yn aelod, sef eiddo y T. C. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gwir alarus, yn y tỳ, yn y capel, ac wrth lan y bedd, gan y Parch. David Williams, Columbus. Hon oedd y gladdedigaeth gyntaf i un wedi cyrhaedd oedran, yn yr ardal hon er pan y mae y Cymry wedi ymsefydlu ynddi. Dylaswn ddyweyd ei bod wedi gadael priod ffyddlon, a phedwar o blant bach mynwesol, ac un chwaer amddifad, i deimlo eu colled ac i alaru ar ei hol; ie, a mwy na hyny, gadawodd ardal gyfan i deimlo, galaru, a hiriaethu ar ei hol. Mae rhywbeth rhyfedd yn hyn, fod pawb yn teimlo. Mae natur megis wedi ei thramgwyddo, ac yn parhau yn anfoddlon i'w cholli.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1858.