MR. THOMAS PRICHARD, COLUMBUS, WISCONSIN.

Ebrill 9fed, 1857, yn Sefydliad Columbus, Wisconsin, THOMAS, mab i Mr. William ac Eleanor Prichard.

Ymfudodd y teulu ddeuddeng mlynedd yn ôl o Pentir, ger Bangor, Gogledd Cymru.

Ganwyd Thomas yn Racine, Gorphenaf 14eg, 1845, yn mhen mis ar ôl eu glanio.

Yr oedd yn wael ar adegau drwy y gauaf, ond heb neb yn meddwl fod perygl. Ni welodd angeu yn dda roddi nemawr o rybudd ei fod am newid et wyneb a'i ddanfon i ffordd. Dywedai y meddyg mai enyniad yr ymysgaroedd oedd ei angeu. Teimla ei rieni yn hynod o alarus ar ei ôl, nid yn unig am ei fod yn fab iddynt, ond am yr ystyrient ef yn un hynod o ufudd a gostyngedig. Gofidiant lawer am na buasent yn ymholi mmwy am agwedd ei feddwl i wynebu y daith. Ni feddyliasant fod ei dymhor mor fyr.

Pan yn lled wael ychydig wythnosau cynt, gofynai ei fam iddo a fyddai yn meddwl am Iesu Grist? "O byddaf," medd yntau, "mae genyf feddwl mawr am Iesu Grist." "A yw yn ddigon i dy achub?" gofynai ei fam yn mhellacb. "Ydyw," medd yntau' Teimla ei rieni yn byderus, fodd bynag, y byddai yr Arglwydd yn ei ras yn trin ei feddwl, a bod ei symudiad yn ennill iddo. Mae troion fel hyn o eiddo yr Arglwydd yn gymhelliad cryf i rieni i ddwyn eu plant i fyny yn gymhwys i farw yn benaf o bob peth.

Cymerwyd y bachgenyn hwn ymaith cyn bod yn ddeuddeg mlwydd oed! Claddwyd ef ar yr lleg yn mynwent Bethel, ac ar ôl claddu, pregethodd y Parch. John J. Roberts, yn y capel, oddiar Salm xc, 12.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1857.