MRS. MARY RICHARDS, SOUTH TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 1af, 1857, yn South Trenton, swydd Oneida, Efrog Newydd yn 34 mlwydd oed, Mary, priod Mr. Hugh Richards. Ydoedd yn ferch i'r Parch. David Hughes, Marcy, gynt o Felin Bodwrdda, Aberdaron, swydd Gaernarfon, Cymru. Ac y mae ei phriod yn fab i David Richards, Ty'n-y-gongl-isaf, Tan-llyn, Meirionydd.

Gadawodd bedwar o blant ienaingc i gydalaru gyda'u tad, oblegid colli mam dyner, ofalus. Dyoddefodd yr hen afiechyd nychlyd, a gweniaethus, y Darfodedigaeth, yn dawel ac amyneddgar iawn hyd y diwedd.

Ydoedd yn aelod o eglwys Crist er yn ieuangc iawn, gyda'r Wesleyaid. Parhaodd i "Harddu athrawiaeth Duw ein Iachawdwr" hyd ei hymddatodiad. Yr oedd, ac y mae iddi "air da gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hun." Yn ystod misoedd meithion ei chystudd, cafodd y fraint o fyw mewn "llawn hyder ffydd" am sefyllfa well, pa bryd bynag y deuai ei hawr i farw. Dywedai lawer yn ei chystudd am y ffolineb o feddwl fod afiechyd hir yn fanteisiol i barotoi i farw. Yr oedd dal dan y cystudd yn ddigon o waith heb sôn am ddim arall: ie, yn ormod oni ba'i fod cysuron crefydd yn cynorthwyo. Aml y dywedai yn ei phangfeydd - "O na chawn fyned adref - Er hyny, O Dad! dy ewyllys di a wneler." Hi a aeth adref! Byddwn barod i'w dilyn. Rhoed ei chorff i orphwys yn mynwent Salem, Deerfield; pryd y gweinyddwyd gan y Parch. H. Humphreys, ac R. L. Herbert.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1857.