MRS. ANN ROBERTS, HAZEL GREEN, WISCONSIN.

Tachwedd 19eg, 1858, yn 76 mlwydd oed, Ann, priod Daniel Roberts, Hazel Green, Wisconsin, gynt o ardal Bethel, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymfudasant i'r wlad hon 13 mlynedd yn ôl, a buont byw am 10 mlynedd yn Columbus, Wisconsin; tair blynedd yn ôl symudasant i'r lle uchod, a'r haf diweddaf symudwyd hi at ei mherch i Franklin, Wisconsin, er mwyn ei hiechyd, gan ei bod yn cael ei phoeni gan ddiffyg anadl a'r dwfr-glwyf. Yr oedd ein chwaer ymadawedig yn perthyn i'r Annibynwyr yn yr Hen Wlad, ond ni chafodd gyfleusdra i ymuno â hwynt yn y wlad hon, o ganlyniad ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd yn Columbus, lle yr oedd yn gwneyd ei chartref yn gysurus.

Yr oedd o dymher addfwyn a llonydd, ac yn darllen a gweddio llawer; ei phrif lyfrau oeddynt y Beibl a Gorphwysfa'r Saint; ac yr oedd ffrwyth ei llafur i'w weled yn eglur yn ei buchedd a'i hymarweddiad. Nis gallaf ddarlunio mewn geiriau mor effeithiol y byddai yn dweyd ei phrofìad yn y cyfarfodydd eglwysig.

Gweinyddwyd ar yr achlysur o'i chladdedigaeth gan weinidog Seisnig o'r lle uchod.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1858.