MR. WILLIAM ROBERTS, HOLLAND PATENT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Rhagfyr 2ail, 1857, wedi maith gystudd, bu farw Mr. William Roberts, gan adael gwraig a thri o blant i alaru eu colled ar ei ôl.

Yr ydoedd yn aelod crefyddol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Yr oedd ei fywyd yn addurn i'w broffes. Ni wnai lawer o swn nac ymddangosiad allanol, ar yr un pryd, yr ydoedd yn Gerddor medrus; a bu yn arweinydd y gân am lawer o flynyddoedd yn yr hen wlad, yn nghyd ag yn America. Daeth cryn gwrs o'i gyfansoddiadau cerddorol allan drwy y wasg; amryw o ba rai fydd i'w gweled yn y Drysorfa Gerddorol.

Ei le genedigol ydoedd Llanllyfni, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1853. Ymadawodd a'r fuchedd hon mewn llawn hyder am fwynhau gwlad well. Ychydig oriau cyn marw coffai ranau o'r Ysgrythyrau, megis "Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth." Adroddai yr emyn melus canlynol gyda hyfrydwch mawr:

"Yn y dyfroedd mawr a'r tônau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen,
Ond y ffyddlawn Archofteiriad,
A fu farw ar y pren;
Cyfaill yw yn afon angeu,
Ddeil fy mhen uwchlaw y don;
Golwg arno wna i mi ganu,
Yn yr afon ddofn hon."

Mae ei weddw a'i amddifaid wedi eu gadael mewn amgylchiadau tra isel a chyfyng; ond y mae Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon eto'n fyw, a gobeithio na bydd i'r brodyr a'r chwiorydd crefyddol yn Swydd Oneida, ac sydd yn perchen da y byd hwn, ddim anghofio eu bod mewn angen; ac os meddyliant am danynt, mae yn ddiameu na chauant mo'u tosturi oddiwrthynt, - "Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn."

Hebryngwyd ei weddillion marwol i gladdfa'r lle, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Richard Jones yn Gymraeg, a'r Henuriad Curtis, o Gyfundeb y Bedyddwyr, yn Saesonaeg.
M. J. MEREDITH.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1858.