MRS. CATHERINE ROWLANDS, PICATONICA, WISCONSIN.

Mai 29ain, 1857 yn Picatonica, o'r Darfodedigaeth, Mrs. Catherine Rowlands, priod William Rowlands, yn 51 blwyddyn o'i hoedran, gan adael priod a saith o bhmt i alaru eu colled, ac i ofal Tad yr amddifad.

Ymfudodd y teulu wyth mlynedd yn ôl, o Ty'n y Maes, Llanllechyd, Sir Caernarfon, yr oedd ein chwaer ymadawedig yn aelod grefyddol gyda'r Methodistiaid Calfiniaidd, lawer o flynyddoedd cyn gadael gwlad ei genedigaeth,a pharhaodd mewn undeb a'r un blaid hyd y diwedd. Nid dydd ac nid nos oedd ei phrofìad yn ei chystudd, eto yr oedd mor amyneddgar a dirwgnach yn ei chystudd ag y gwelwyd odid neb, ac yn parhaus ddywedyd yr "Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg."

Myhefin 1af, ymgynullodd yr holl ardalwyr i wneuthur y gymwynas olaf a'r hyn sydd farwol, pryd y pregethodd y Parch. John Davies, yn gymwysiadol ac effeithiol cyn cychwyn, oddiwrth destyn o'i dewisiad hi i hyny sef, "Am hyny byddwch chwithau barod, a.y." Mat. xxiv. 44. fel pe dywedasai wrth ei theulu, yr eglwys a'r gymydogaeth, yr wyf fi felly, byddwch chwithau barod.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1857.