MR. JOHN G WILLIAMS, TY COCH, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 14eg, 1857, ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd, yn 65 mlwydd oed, Mr. John G. WiLLiams o'r Tŷ Coch, Steuben.

Brodor ydoedd o ardal Bwlchytocyn, Lleyn, - wedi ymfudo i'r wlad hon tua 28 mlynedd yn ôl, ac o'r pryd hyny wedi gwneyd ei breswylfod yn Steuben a'r ardal.

Yr oedd yn ŵr gweddw ers blynyddau, - a'i hoffus ferch, Mrs. Jennett Griffiths, yr hon oedd yn unig weddill gan angau, a gladdwyd tua 4 mis o'i flaen ef. - a theimlai ei golled yn fawr ar ei hol, ond ni chafodd ond ychydig amser i brofi ei golled. Wyr ac wyres yn unig yn blant bychain, gyda eu tad, Mr. Owen D. Griffiths, sydd yn aros yn awr o'r teulu, ac iddynt bellach y perthyn y ffarm a adawyd mewn ewyllys iddo yntau gan ei ewythr, Mr. Evan Griffiths, Ty Coch.

Yr oedd ein brawd hwn yn aelod eglwysig gyda'r Annibynwyr am rai blynyddau cyn ymfudo o Gymru, a pharhaodd yn aelod cymeradwy (ac yn ddiacon dros amryw flynyddau) o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn mwynhau cysuron yr efengyl yn ei gystudd diweddaf. Dywedai yn gadarn, "Mi a wn i bwy y credais," a'i fod "yn gweled cyrau y wlad a'r Brenin yn ei degwch." Yr oedd yn gwbl foddlon i adael y ddaear hon, ac yn hyderus iawn ei fod yn myned at Iesu a'r teulu sydd wedi eu perffeithio. Dymunai fod yr Emyn 517 yn Nghaniadau y Cysegr yncael ei chanu ar achlysur ei gjaddledigaeth, yr hyn a wnaed: -

Am ddod adre' i dŷ fy nhad,
'Rwy'n hiraethu;
Blinais ganwaith ar y wlad
Lle mae pechu a.y.

Claddwyd ef yn mynwent eglwys Penymynydd, a gweinyddwyd gan y brodyr Edward Humphreys a R. Everett.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1857.