MR. ROBERT WILLIAMS, BROOKLYN, NEW YORK.
Awst 2ail, 1857 Mr. Robert Williams, yn Brooklyn, Caerefrog Newydd.Brodor o Benybontbren, ger Pwllheli, sir Gaernarfon oedd Mr. Williams, ac oddeutu 48 mlwydd oed, llaethwr wrth ei alwedigaeth er pan ddaeth i'r wlad hon tua naw mlynedd ar hugain yn ôl.
Yr oedd yn frawd yn nghyfraith i Mr. Cadwaladr Richards, y goruchwyliwr ymfudol.
Gadawodd weddw a dau o blant i alaru ar ei ôl. Mae rhai o'r tenlu yn byw yn awr yn Llwyndyrus, Lleyn, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Gweinyddodd y gweinidogion canlynol yn yr angladd; cyn cychwyn o'r tŷ, darllenodd agweddiodd y Parch. John Ellis (T. W.), ae anerchwyd y dorf luosog gan y Parch. J. W. James (B.), Scranton, Pennsylvania, a dilynwyd ef gan y Parch. Dr. Hiscoch, gweinidog yr Eglwys Fedyddiedig Seisnig, o'r hon yr oedd y trancedig yn aelod; ac yn y gladdfa gan y Parch. W. Garner, gweinidog Eglwys y Bedydd Cymreig yn New York.