MRS. JANE DAVIES, PROSCAIRON, WISCONSIN.
Rhagfyr 6ed, 1858, yn ardal Proscairon, Wisconsin, Mrs. Jane Davies, priod Mr. Humphrey Davies, gynt o Landdeiniolen, Gogledd Cymru, yn 47 mlwydd oed.Y darfodedigaeth gwenieithus oedd yn ymweithio yn rhanau bywydol ein chwaer er ys llawer o fisoedd; ond bu orfod iddi yn niwedd yr yrfa gadw ei gwely am rai wythnosau.
Yr oedd Jane Davies yn un o'r rhai blaenaf yn ein heglwys mewn ffyddlondeb i ddylyn moddion gras, er ei bod er ys blynyddoedd yn teimlo llawer o lesgedd a gwendid corphorol. Bu yn ddyoddefgar yn ei chystudd oll, gan gydnabod yn ddiolchgar ddaioni Duw yn ysgafnder ei law arni, a rhoddi amser iddi i edifarhau. Cawsom lawer o hyfrydwch yn eistedd wrth erchwyn ei gwely, pan yn gwrandaw ar ei phrofiadau cysurlawn tra yn ei chystudd. Soniai yn serchog iawn am Iesu Grist, a'r fath bleser a fyddai yn ei fwynhau wrth wrandaw ei bregethu; a'i fod yn cymdeithasu â hi yn ei chystudd, pan mewn amddifadrwydd o foddion gras yn y cysegr. Fel yr oedd yn ymborthi ar fwyd cryf yr efengyl pan mewn iechyd, felly yr oedd yn cael y dysgleidiau yn freision yn ei chystudd - nerth cyfammod Duw a'i bobl ydoedd yn gysur cryf iddi - melus i'w henaid ydoedd geiriau Iesu, "Ac ni chyfrgollant byth." "Oes, oes, y mae genyf obaith disigl," meddai wrthym yn ei chystudd. Bu yn ddiwyd yn dwyn ei phlant i fyny yn yr eglwys, pa rai ydynt yn dwyn tystiolaeth o'i ffyddlondob dros eu heneidiau. Wedi dylyn achos Crist am ychydig dros ugain mlynedd, bu farw mewn tangnefedd, gan adael priod serchog a saith o blant i deimlo eu colled am dani.
Dydd Iau ymgasglodd torf luosog i hebrwng y corph i dŷ ei hir gartref. Gan i farwolaeth perthynas mewn ardal arall achlysuro absenoldeb ein gweinidog, anerchwyd y dorf yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. J. R. Daniels.