MRS. MARGARET DAVIES, MILWAUKEE, WISCONSIN.
Mai 4ydd, 1858, yn Milwankee, Wisconsin, yn 56 mlwydd a lO mis oed, Mrs. Margaret Davies, gweddw y diweddar John Davies, Tŷ Capel Seilo, Tre y Garth, plwyf Llandegai, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu 14 mlynedd yn ôl. Arosodd yn Boston am 11 mlynedd; wedi hyny symudodd i'r lle y bu farw.
Yr oedd yn aelod ffyddlon gyda'r Wesleyaid er yn ieuanc, a phârhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd.
Gadawodd ddau fab a merch i alaru ar ei hol. Cafodd weled y tri yn ymuno â chrefydd cyn ei marw, a gobeithio y byddant yn ymdawelu a dywedyd. "Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." Y Palsy a'i tarawodd, a bu yn sal am 3 diwrnod. Mae hyn yn gwaeddi am i ninau fod yn barod, "Canys yn yr awr "ni thybom y daw Mab y dyn."