MRS. MARGARET DAVIES, MILWAUKEE, WISCONSIN.
Ebrill 24ain, 1858, yn 55 mlwydd oed, bu farw Mrs. Jane Evans, gwraig Mr. Evan Evans, Collinsville, swydd Lewis, New York.Merch ydoedd i William a Chatharine Roberts, Plasymhenros, yn agos i Bwllheli, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Yr oedd ganddynt 5 o blant - pedair o ferched ac un mab. Mae ei brawd eto yn byw yn yr hen gartref heb briodi, yn bur gyfoethog o bethau y byd hwn; ac un chwaer iddi, sef gwraig Mr. John Davies, yn byw yn Pwllheli, yn deulu parchus a chrefyddol iawn, a thyna sydd o'r teulu yn fyw.
Ymunodd mewn priodaa â Mr. Evan Evans, mab i John a Jane Evans, o'r Penrhyn, Aberdaron, sir Gaernarfon, yn y flwyddyn 1823. Daethant drosodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1842.
Bu ganddynt 7 o blant; mae 6 yn fyw, bu un farw yn ieuanc. Arosasant am ychydig amser ar eu dyfodiad i'r wlad hon yn swydd Oneida, New York. Oddiyno symudasant i blwyf Jefferson, i'r plwyf a elwir Henderson. Buont yno am 7 mlynedd. Ond am nad oedd ond ychydig o Gymry yn y parth hwnw o'r wlad, ac i'r dyben o fod o fewn cyrhaedd moddion Cymreig, symudasant i Collinsville, lle y darfu iddynt brynu ffarm yn ymyl y pentref a thua dwy filltir o bentref Turin, lle y mae y gweddill o'r teulu yn awr, sef y tad a 5 o'r plant.
Yr oedd Mrs. Evans yn un o'r gwragedd mwyaf heini, bywiog, helaeth ei galluoedd, siriol ei chyfeillach, a charedig yn ei theulu, o fewn cylch ein hadnabyddiaeth. Dangosodd lawer o garedigrwydd i laweroedd yma ac yn Nghymru. Mae colled fawr ar ei hol yn y teulu, yn yr eglwys a'r gymydogaeth. Yr oedd yn briod dyner a gofalus iawn, ac yn llanw ei chymeriad o wraig rinweddol yn mhob ystyr.
Fel mam yr oedd yn dirion, a gofalai yn fawr iawn am ei phlant, i'w dysgu pan yn ieuanc i gadw y Sabboth, a darllen eu Beiblau, a.y. Mae ei dylanwad i'w gweled arnynt heddyw, ac ni fu plant erioed yn fwy gofalus ac anwyl o'u mam na hwythau. Treuliodd y rhan fwyaf o'u hoes allan o dŷ yr Arglwydd, yr hyn oedd yn ofid mawr ar ei meddwl yn ei chystudd, er ei bod wedi addunedu lawer gwaith, ond yn methu tori trwodd. Eithr ar y Sabboth, Awst 30ain, 1857, fe dorodd y ddadl yn ei meddwl, nes y penderfynodd fyned i dŷ Dduw, a deued o honi y peth a ddeuai.
Felly o'r diwedd hi a wynebodd i'r Eglwys Gynulleidfaol yn Turin. Cafodd dderbyniad croesawgar, a theimlid llawenydd mawr ei gweled wedi dyfod trwy yr esgoreddfa cyn myned i diagywyddoldeb. Pan ddaeth i'r eglwys ymddangosai wrth fodd ei chalon. Yr oedd y tŷ, a'i arlwyadau, a'i bob peth yn cael ei fawr hoffi ganddi.
Ei chystudd ydoedd y darfodedigaeth. Cafodd ei chaethiwo i'w gwely am amryw fisoedd. Byddai yn dra hoff i'w chyfeillion crefyddol ddyfod i ymweled â hi a chadw cyfarfodydd gweddi yn ei thŷ : a buom yno yn cyfranogi o Swper yr Arglwydd amryw o droion. Cynghorodd lawer ar ei phlant yn ei chystudd i ymofyn am grefydd mewn pryd; yn enwedig y diwrnod diweddaf y bu byw. Galwai hwynt bob yn un ati at ei gwely a chynghorai hwynt yn sobr a difrifol iawn i ymofyn am ran mewn Cyfryngwr mewn dydd o ras, yn enwedig ei mab John, pa un oedd yn anwyl iawn ganddi. Mae yn dda genym hysbysu fod y plant oll ond un o'r rhai sydd wedi tyfu i fyny yn aelodau o'r un eglwys. Yr oedd eu mam yn gobeithio y byddent yn llenwi ei lle hi yn mhob peth oedd dda ynddi.
Yn ei chystudd diweddaf, proffesai hyder neillduol yn Nghrist, a meddiannai y tawelwch mwyaf hyd y diwedd. Pan yn ymddyddan â hi yn ei horiau diweddaf, rhoddodd dystiolaeth eglur fod ei mater yn dda. Dywedai un tro yn neillduol ei bod yn hiraethu am fyned adref, ac adroddai yr hen benill canlynol -
Am ddod adre' i dŷ fy Nhad,
'Rwy'u hiraethu;
Blinais ganwaith ar y wlad
Lle mae pechu.
Yr oedd ei synwyr a'i meddwl yn hollol reolaidd hyd yr anadliad olaf. Gorchymynodd iddynt ofyn i'r meddyg a oedd gobaith am dani. Atebai yntau nad oedd. Felly ffarweliodd â'i hanwyl briod yu dawel, ac â'i phlant bob yn un, a thynodd yr anadl olaf, ac ehedodd ei hysbryd gwerthfawr i wlad lawer gwell, ac at gyfeillion llawer purach na neb a welir ar ein daear ni.
Ar y 27ain, ymgasglodd tyrfa o Gymry a Saeson i wneuthur iddi y gymwynas ddiweddaf, pryd y dechreuwyd y gwasanaeth yn y capel gan Mr. Richard Isaac, ac y pregethwyd gan y Parch. David E. Prichard yn Gymraeg, a chan y Parch. Mr. Park yn Saesonaeg. Yna aeth y gynulleidfa yn rheolaidd i'w bebrwng i'r gladdfa sydd yn perthyn i Collinsville, lle y dodwyd y corff gwael i orphwys hyd y dydd y cyfnewidir ef, fel yr ydym yn hyderu, i fod yn unffurf a'i gorff gogoneddus ef. Dros y teulu.
D. E. PRICHARD.