MISS. MARY FOULKES, ENGEDI, DODGE COUNTY, WISCONSIN.

Mawrth 9fed, 1858, yn Engedi, Swydd Dodge, Wisconsin, Mary Foulkes, yn 84 oed, merch David ac Ann Foulkes, gynt o Landdeiniolen, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymfudasant i'r wlad hon yn 1846. Cafodd ei magu gyda'i rhieni yn yr eglwys gyda'r T. C., a bu yn aeled am ei hoes. Tybiem ei bod fel pren wedi ei phlanu ar lan afonydd dyfroedd, yn rhoddi ffrwyth yn ei bryd, a'i dalen ni wywodd. Anfynych y darllenai un llyfr ond y Beibl - byth ni chollai foddion gras os byddai'n iach. Ni wywai ei dalen yn nglyn cysgod angau. Dywedai mai gwerth mawr oedd, nad oedd ganddi ddim i'w wneyd ond marw y diwrnod hwnw, a fod cyfaill a lŷn bob amser, brawd wedi ei eni erbyn caledi. Cynghorai ei theulu i geisio crefydd iawn. Ymadawodd hyderwn yn yr Arglwydd, ar ôl dyoddof cystudd yn amyneddgar am flwyddyn a haner, o'r darfodedigaeth nychlyd.

Claddwyd hi yn Machpela, ger Engedi. Gadawodd fam, pedwar o frodyr a chwaer ar ei hol. Bu farw ei thad, Mai 3ydd, 1857, yn 70 mìwydd oed. Bu yntau yn aelod ffyddlawn gyda'r T. C. am 50 mlynedd, a phroffesodd broffes dda o lesu Crist, hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn un gwir afaelgar mewn gweddi, a bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith.

Gorwedda y ddau yn ymyl eu gilydd dros dymor eto.
JOHN DANIEL.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1858.