MR. WILLIAM H. HUGHES. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Chwefror 19,1840, yn Steuben, Swydd Oneida Caerefrog Newydd. bu farw y brawd William Hughes, yn 49 oed, ar ol bod yn aelod gyda'r Trefnyddion Weslejaidd ynghylch blwyddyn a haner.Yn ei gystudd ymddangosodd yn hynod o foddlawn i ewyllys ei Dad nefol. Dywedodd yn fynych fod y byd yn darfod o'i olwg, a'i fod yn foddlawn i fyned ymaith pan welai'r Ar- glwydd yn dda alw am dano. Tan ei holl gystudd, proffesodd hyder cadarn am fywyd tragywyddol trwy Grist; er ei fod yn gweled na weithiodd ond ychydig yn y winllan. Ni bu ei yrfa grefyddol ond ber, ond bu ei fywyd (am a wn i) yn hollawl ddiachos tramgwydd i'w gyfeillion. Yr oedd purdeb ac uniondeb ei egwyddor i'w ganfod yn amlwg yn ei holl gyflawniadau crefyddol : ac er mai galar yw colli y fath ddyn o'r eglwys, eto mae'n orfoledd gweled y pererin yn cyraedd pen y daith yn ei gyflawn arfogaeth.
Ychydig cyn ei farwolaeth dywedodd wrth ei wraig, " Er i ni ymadael tros ychydig, cawn ddedwydd gyfarfod a'n 'gilydd." Yna canodd gyda sirioldeb mawr:
"Dyma gyfarfod, hyfryd iawn,
Myfi sy'n Hwm, a'r Iesu yn llawn;
Myfi 'n dylawd heb feddu dim,
A'r Iesu yn rhoddi pob peth im'."
Ymhen ychydig ddyddiau, ymadawodd ei enaid dedwydd a'r daearol dy, gan adael ar ei ôl, wraig dirion a saith o blant i alaru am dano. Hebryngwyd ei weddillion llygredig i dy ei hir gartref gan dyrfa liosog, a phregethodd R. Everett oddiwrth Rhuf 8 : 11, a John Jones oddiwrth Num. 23: ar y rhan olaf o'r 10 ad. " Gwerthfawr yngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef." - Salm. 116 : 15.
J. JONES.