MRS. MARY GRIFFITH, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 1af, 1858, o'r dyfrglwyf, Mary, gwraig Mr. Griffith R. Griffith, Trenton, a merch i'r diweddar enwog - Dr. Daniei Roberts. Steuben.

Ganwyd hi yn mhlwyf Bryncroes, sir Gaernarfon. Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818.

Ymunodd mewn priodas â Mr. G. E. Griffiths yn y flwyddyn 1818. Bu farw yn 56 mlwydd, 9 mis a 4 diwrnod oed. Bu iddi 16 o blant.

Gadadawodd briod a 14 o'r plant i alaru ar ei hol. Ymgynullodd tyrfa luosog ar yr ail ddydd i hebrwng ei rhan farwol i gladdfa y teulu o fewn tua dwy fllltir i'r Nant.

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr Ebenezer Salisbury, R. Everett, ac Humphrey R„ Jones, Wisconsin.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1858.