MRS. ANN HUGHES, CAMBRIA, WISCONSIN.

Rhagfyr 6ed, 1858, yn y Castell, ger Cambria, Wisconsin, Mrs. Anne Hughes, priod Mr. Robert Hughos, yn 23ain mlwydd oed. "Am hyny byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn," sydd wers a ddylem ei chofio yn ystyriol bob dydd o'n bywyd. Ychydig a feddyliai ein cyfeillion cydmarus pan yn rhoddi llaw a chalon i'w gilydd mewn glan briodas, mai prin bymtheg mis fyddai oes yr amod yn ôl trefniad yr Holl wybodol. "Calon dyn a ddychymyg ei ffordd, ond ar law Duw y mae hwylio ei gerddediad." Wele ein cyfeillion ieuainc wedi ychydig fisoedd o gydfyw tangnefeddus a siriol mewn masnach yn Liverpool, tua Mehefin diweddaf yn ymryddhau oddiwrth y cyfan, ac yn bwriadu treulio y gweddill o'u hoes yn neillduedd y ffermwr anymddibynol yn Wisconsin.

Cawsent rwydd hynt i gyrhaedd yma, a darn prydferth o'r ddaear i gartrefu ynddo. Yr oodd y dyfodol yn cael ei arlunio yn dlws ar rwydlen eu gobeithion; ond ow! y mae yr ystorm yn neshau. Rhagfyr y 5ed, clafychodd Mrs. Hughes yn y dull teuluaidd, a chymerwyd hi yn ebrwydd gan lewygfeydd dirdyniadol, ac er a allasai meddyg medrus medrus a ffyddlon wneyd yr oeddynt yn parhau wrthi bron yn ddiseibiant: boreu y 6ed, ganwyd y baban, ond y fam druan, nid ystyriodd y noson hono - tynodd ei hanadliad olaf, ac ehododd ei hyspryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes.

Yr oedd Mrs. Hughos yn ferch i'r boneddwr parchus Mr. Richard Roberts, Castell, Llanddeiniolen. Gogledd Cymru, ac felly cafodd ei dwyn i fyny yn ôl rheolau moesoldeb a chrefydd. Yr oedd o dymher addfwyn a dystaw; ac yn arwyddo ymlyniad cryf wrth achos Mab Duw, enw yr hwn a broffesai: ond er syndod i ni a'i lluosog berthynasau yn Arfon, y mae heddyw yn ei bedd - heb air rhyngddi a'i phriod caredig a thyner, nac un cyfarwyddyd pa fodd i wneyd a'r baban amddifad.

Dydd Iau ymgynullodd y gymydogaeth i hebrwng y corph i dŷ ei hir gartref yn mynwent Cambria. Yn y tÿ, gwnaeth y Parch. Rees Evans, gweinidog yr eglwys y perthynai yr ymadawedig iddi, sylwadau tra phriodol, a bedyddiodd y baban bach amddifad, yr hwn a alwyd yn Richard John, yn ôl bwriad ei fam. Yn Nghapel Cambria, i dorf fawr o'n cyd-genedl, pregethodd y Parch. William Jones, Welsh Prairie, oddiar Diar. iv. 32.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1859.