MR. ELLIS HUMPHREYS, PRAIRIEVILLE, WISCONSIN.
Medi 14eg, 1858, yn ardal Prairieviile, Wisconsin, Mr. Ellis Humphreys, yn 65 mlwydd oed.Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan Mr. Owen Hughes (T. C.) Yr oedd Mr. Humphreys yn fab i Humphrey Dafydd, Tŷ Gwyn, Llanarmon, swydd Gaernarfon, a bu yn aros dros 20 mlynedd yn Brynceirch.
Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1843, a sefydlodd yn ardal Prairieville hyd ddydd ei farwolaeth. Gadawodd 9 o blant i alaru ar ei ôl, yn nghyd a chylch helaeth o berthynasau, a 44 chydoabod.
Mae ei feib.ion oll (pump mewn rhifedi) yn ardal Ixonia, ac oll ond un, sef yr ieuangaf, yn benau teuluoedd.