MRS. ANN JAMES, FRENCH ROAD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 7fed,1858, yn ardal y French Road, swydd Oneida, Mrs. Ann James, priod Mr. Walter James, yn 61 mlwydd oed. Ei chlefyd ydoedd y bilious colic.Merch ydoedd i Evan a Jane Evans, Tŷ Canol, plwyf Aberdaron, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1811.
Ymunodd mewn priodas â Mr. James yn 1821, a bu iddynt naw o blant. Gadawodd ei phriod ac wyth o blant i alaru ar ei hol, sef tri mab a phum merch.
Yr oedd Mrs. James yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y French Road er ys wyth mlynedd ar hugain, ac yr oedd yn un hynod o addfwyn a heddychol yn ei theulu, yn yr eglwys, a'r gymydogaeth. Yr oedd ei phrofiad yn hynod o gysurus wrth wynebu y glyn tywyll, ac aeth iddo dan ganu,
" Os rhaid myn'd drwy'r afon donog,
Mae un i dori grym y lli'."
Cwynai yn fynych yn achos ei theulu hoff, o herwydd fod rhai o honynt heb fod yn grefyddol, a dywedai y byddai yn gweddio llawer drostynt, ac y mae arwyddion amlwg fod yr Arglwydd, yn ei anfeidrol ras, wedi ateb ei gweddiau dros ei phlant pan ar y ddaear, ar ôl iddi fyned i'r nefoedd; ac nid yn unig gweddiai dros ei phlant, ond bu yn ffyddlon, yn ôl ei gallu, i'w maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.
Fel cymydoges, yr oedd yn groesawgar a siriol, a pharod i gynorthwyo yr anghenus, hyd y gallai, yn mhob cyfyngder, ac ni lawenychai yn aflwyddiant neb. Ni welais erioed fwy o arwydd galar cyffredinol nid yn unig yn mysg ei phorthynasau, ond yr oedd arwyddion tcimlad ar bob wyneb, er fod pawb yn credu ei bod hi wedi myned i mewn i lawenydd ei Har- glwydd. Claddwyd ei chorph yn y gladdfa sydd wrth gapel y French Road. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y brawd Evan Morris a'r ysgrifenydd.
EBENEZER SALISBURY.